glaw eto
Dechreuodd hi stido bwrw efo gwragedd hen ac ifanc i gyd tra oeddwn i a'r plant yn Wal-Mart ddoe. Am law! Doedd hi ddim yn edrych yn stopio am sbel, felly cerddes i ar fy mhen fy hun at y fan wrth adael y plant y tu ôl drws blaen y siop. Ces i fy ngwlychu o'r corun i'r sawdl yn llythrennol. Yna, roedd rhaid gyrru'n araf, 20 m.y.a. ar y brif ffordd achos mod i ddim yn medru gweld yn iawn. Trodd y ffyrdd yn afonydd mwdlyd yma ac acw ond daethon ni adre'n ddianaf yn y diwedd!
3 comments:
Mi ddylsen nhw trefnu Grand Prix Formula 1 yn fan'na! Dyna'r math o dywydd sy'n dilyn y syrcas hwnnw o le i le ar hyn o bryd!!
Ond mae'n heulog heddiw!
Dw i'n falch o glywed bod y tywydd yn llawer gwell rŵan. Mae hi'n edrych fel rwyt ti'n byw yng Nghymru am dipyn.
Post a Comment