Prynes i gerddoriaeth ddawnsio llinell gan iTune yn ddiweddar i ddawnsio yn y ty. Tra fy mod i'n mwynhau dawnsio, dw i ddim yn rhy hoff o gerddoriaeth 'country' Americanaidd. Dyma feddwl a fydd fy hoff gerddoriaeth Gymraeg o saith degau'n gweithio. Ydy! Mae rhai ohonyn nhw'n gweithio'n berffaith. Dyma'r caneuon a wnes i drosglwyddo i iTune:
caneuon gan -
Brodyr Gregory
Hergest
Tony ac Aloma
Rosalind a Myrddin
Dyfydd Iwan
Mynediad am Ddim
Talon
Mi ga i yfarfer corff a mwynau cerddoriaeth Gymreaeg ar yr un pryd!
4 comments:
syniad ardderchog! Rhaid i mi gyfadde nad ydwi'n rhy hoff o gerddoriaeth 'canu gwlad' chwaith. Wyti wedi clywed can Geraint Lovgreen o'r enw 'Canu Gwlad' (mae'n ar gael ar i-tunes) sy'n cael hwyl efo'r 'genre' ac sy'n eitha ddoniol hefyd, falle fasai hynny'n addas fel cefndir ddawnsio hefyd
Diolch yn fawr. Dw i newydd ei phrynu. Mae hi'n gweithio'n dda.
Cofiais i ddefnyddio caneuon gan Abba i ymarfer cof yn y saithdegau. Maen nhw'n gweithio'n dda, ond dw i ddim yn credu eu bod nhw'n ddelfrydol i ddawns llinell.
Gwnewch bopeth yn Gymraeg felly.
Post a Comment