Monday, August 17, 2009

mynd i gapel cymraeg (26/7/09)















Mae brecwast Marteg yn wych. Bwddwn i'n edrych ymlaen ato'r uwd perffaith a ballu bob bore. Daeth Carol i fy llofft bore Sul ar ôl iddi orffen y gwaith yn y gegin. Roedd hi mor ffeind a ches i groeso cynnes arall a sgwrs ddymunol. Byddwn i'n siarad â hi'n aml tra oeddwn i'n aros yno.

Roeddwn i eisiau mynd i'r capel Cymraeg dair gwaith fel y Cymry flynyddoedd yn ôl. Es i i Gapel Coch am wasanaeth am ddeg ac am 5:30. (Roedd yn bwrw'n drwm yn y bore. Diolch i Carol am y llift.) Roedd yna ryw ddeg o bobl ac y Parch Iorwerth Jones Owen o Gaernarfon oedd yn pregethu.

Cerddes i at Gapel Jerwsalem am wasanaeth dau o'r gloch ond doedd neb yno. Penderfynes i fynd i weld Castell Dolbadarn oedd ar y ffordd.

2 comments:

Corndolly said...

Rhaid i mi ddweud fy mod i'n hoff iawn o aros mewn 'brecwast a gwely'. Ac mae'r lle bach yn well na gwesty mawr yn aml iawn.

Emma Reese said...

Cytuno'n llwyr.