Ar ôl gorffen llnau'r llety a bwyta brechdan Spar i ginio, ces i awydd sydyn mynd ar wibdaith ar fws Sherpa â phen agored argymellwyd gan Gwilym y Ganolfan Groeso. Dyma neidio i mewn i'r bws o flaen siop Joe Brown. I ffwrdd â fi i Ben y Pas.
Roedd yn ddigon cynnes yn y dref ond roedd yn oer ar ben y bws! O, roedd y golygfeydd yn ogoneddus serch hynny! Es i ar Fwlch Peris sawl tro'n barod ond roedd yn brofiad hollol wahanol i weld y mynyddoedd o fy nghwmpas i.
I ddiweddu'r diwrnod braf, cerddais dipyn yn y dref a gweld tyˆ Rowland Hughes. Roeddwn i'n osgoi darllen "o Law i Law' a dweud y gwir (^^) er mai un o'r bobl leol oedd o, ond rhaid i mi ei ddarllen i ddangos parch i Lanberis. Prynais gopi ail-law felly mewn stondin yn yr Eisteddfod am dair punt, ond stori arall ydy honno wrth gwrs.
2 comments:
Newydd orffen darllen 'O law i law' ydw i ! Penderfynais i'w ddarllen ar ôl i mi orfod aros yn y llyfrgell pan o'n i'n cyfarfod efo ffrind sy'n hwyr bob tro. Mae'r iaith yn debyg iawn i beth rydw i'n ei dysgu ar hyn o bryd - iaith ffurfiol ac iaith dafodiaith y gogledd. Rŵan, dw i'n bwriadu ailddarllen y llyfr wrth i mi wneud nodiadau am bethau pwysig.
Prynes i chwech o lyfrau ar y maes. Mi wna i ddechrau ar o Law i Law rywdro.
Post a Comment