Ar ôl cael cawl 'sweet potato' a brechdanau blasus yn y ganolfan arddio fawr, aethon ni i ymweld â John a Llinos o Ganada, ffrienduau Linda ac Idris ger Caernarfon. Cawson ni amser dymunol yn sgwrsio dros win goch gwych. Roeddwn i wrth fy mod yn cael 'cawod Gymraeg' am oriau.
Ces i enw Cymraeg yn ôl ystyr fy enw Japaneg gan John - Purwen! Dw i'n hoff iawn ohono fo. Efallai dylwn i fy nglaw i'n Emma Purwen Reese!
Yna, ffwrdd â ni i Ynys Môn dros Bont Britania yn edmygu'r olygfa fendigedig tua Phont Menai a chael cip ar orsaf drên Llanfair PG. Yn ôl i Fesethda drwy Rachub, lle geni Idris wrth weld Chwarel Penrhyn ac aethon ni allan o'r car yn Nyffryn Ogwen. Am olyfga! Godidog, gogoneddus - dw i ddim yn gwybod yr ansoddair addas i'w ddisgrifio.
Troes Begw o'r diwedd, ac yn sydyn gwaeddodd:
"Dyna hi."
"Beth eto?"
"Y lôn bost."
Wrth ochr y creigiau serth, uwchben Nant Ffrancon, cawson ni weld y lôn bost wen lle aeth y Goets Fawr o Lundain i Gaergybi arni hi.
4 comments:
Mae'r ardal lle roeddet ti'n teithio'n un hyfryd iawn, ynte? Rhaid i ti ddod yn ôl yn y dyfodol.
Ydy wir. Fedra i ddim disgrifio.
Falch dy fod ti wedi mwynhau ! Yr olygfa o Sir Fon yn edrych tuag at Bont Borth ydi un o'r rhai hardda fyddwn i'n weld pan fyddwn yng Nghymru.
Ac dioch i ti ac Idris am fynd â fi i'w gweld hi!
Post a Comment