Roedd y te a ges i yng Nghymru'n hynod o dda bob tro. Un o'r pethau dw i'n ei golli ydy o.
Fedrwn i ddim dioddef y te a werthir yn y siopau yma mwyach, a dyma yrru e-bost at Carol yn Llanberis yn gofyn pa fath o de maen nhw'n ei yfed. Paned Gymreig wrth gwrs, a dyma brynu rhai ar lein gan gwmni o Texas.
Mae o newydd gyrraedd a ches i banad hyfryd wrth ddarllen y pob gair Cymraeg ar y pecyn.
4 comments:
Wnaethon ni brynu blwch o'r Panad Cymreig tra yng Nghymru oherwydd y pecynnu'n unig mae'n siwr, mor brin yw'r cyfleoedd prynu rhywbeth yn y siopau gyda chymaint o Gymraeg arni! Ond does dim argyhoeddi Jill i yfed unrhywbeth ar wahan i de Swydd Efrog (Yorkshire Tea) yn anffodus. Mi aeth y pecyn Cymreig lawr i'r gweithdy i mi i'w mwynhau yn fanna
Mwynha'r te yn y gweithdy felly!
Ah ! Bob tro byddwn yn ymweld a Chymru , byddwn yn dod a bocs o'r 'Paned Cymreig' yn ôl efo ni i'w fwynhau. Mae'n dda iawn . Mae 'na de Cymreig arall hefyd , sef Glengettie, a dwi'n sylwi fod hwnnw hefyd ar gael ar yr un un linc.
http://www.teadog.com/Glengettie-Tea-s/47.htm
Ydi , mae hi mor braf gweld y Gymraeg ar y nwyddau :)
Wyt ti erioed wedi cael Glengettie? Ydy o cystal â Phaned Gymreig? Os felly, mi wna i ei brynu fo y tro nesa. Dw i'n sgwnnu hyn wrth yfed Paned Gymreig gyda llaw!
Post a Comment