Wedi clywed gan Linda am y Fflam Olympaidd a ddaeth drwy'r dref Comox, dyma feddwl sut basai'n teithio dros y môr. Ar y llong efallai. Beth fasai'n ddigwydd yn y nos? Tybiodd fy ngwr mai cael ei ddiffodd yn ystod y nos a chael ei gynnau'r bore wedyn rhag achosi tân basai fo! Na, fedrwn i ddim credu hynny. Y fflam arbennig ydy o sy'n cael ei gynnau yng Ngroeg.
- awyren arbennig, criw o osgorddion i amddiffyn y fflam dydd a nos! Am ofal!
2 comments:
Ia , 'roedd rhaid i minnau hefyd edrych am fwy o wybodaeth am y fflam olympaidd ar ôl deall ei fod yn dod i'n tref ni. 'Roedd 'na lun ar y teledu yn dangos pedwar neu bump o lanteri wedi eu gosod yn ofalus ar yr awyren ...ar y ffordd o Groeg i Victoria B.C.
Ffeithiau diddorol iawn. Doeddwn i erioed wedi meddwl amdanyn nhw o'r blaen, a gweud y gwir.
Post a Comment