Saturday, January 9, 2010

aderyn bach


Daeth aderyn bach i'r cyntedd (porch) blaen i dreulio'r nos rewllyd. Rhaid bod y golau yn rhoi tipyn o wres iddo fo. Mae o'n clwydo ar fowldin cul y wal. Gosododd y gŵr ddarn o bren ar y cornel ond mae'n debyg bod yr aderyn yn amheus o'r ddyfais 'na. Mae o'n dal ar y mowldin. Dan ni'n mynd i adael y golau trwy'r nos. Gobeithio na neith o syrthio yn ei gwsg.

3 comments:

Emma Reese said...

Gadawodd o'n ddianaf y bore ma. Gwelodd y gŵr o'n hedfan i ffwrdd.

Linda said...

Ah druan , ond fe gafodd o groeso acw . Yn falch o glywed ei fod yn iawn ac wedi hedfan i ffwrdd. Does wybod ella y daw yn ôl atoch eto rhyw ddydd !
Dwi wrth fy modd efo'r gair 'clwydo' gyda llaw. Mae 'na rhywbeth cysurus iawn ynglŷn a fo.

Emma Reese said...

Dan ni'n gadael y silf bach. Gobeithio y daw o'n ôl neu unrhyw bar a fydd yn chwilio am lecyn clyd i nythu arno fo. Ffeindies i'r gair clwydo mewn geiriadur.