Daethon nhw i Farteg i fy nghasglu, ac i ffwrdd â ni i Nant Gwrtheyrn. Gadawon ni'r car ar ben y bryn a cherdded i lawr y llethr ofnadwy o serth. Roedd yn ddiwrnod anhygoel o braf yn annisgwyl er bod y gwynt yn gryf. Cawson ni bicnic wrth fwrdd tu allan sy'n wynebu'r môr yn edmygu'r golygfeydd godidog. Cerddon ni o gwmpas y lle wedi'i gynllunio'n fedrus, a phan gyrhaeddon ni'r Ganolfan Treftadaeth, roedd dosbarth Cymraeg ymlaen ynddi hi. Dw i erioed wedi gwneud cwrs yma, ond rhaid bod yn hyfryd cael aros mewn lle mor braf a dysgu.
Cerddon ni i lawr, felly rhaid cerdded i fyny!
(Diolch i Linda ac Idris am y lluniau.)
2 comments:
Dal i feddwl am yr allt serth 'na ar y ffordd i lawr ac ar y ffordd i fyny !!Ac am y picnic bach i lawr yn y pentref. Mi 'roedd hi'n ddiwrnod braf.
Wyt ti wedi darllen hanes chwedl Rhys a Meinir eto?
Do wir. Diolch am y llyfryn. Mae'n chwedl mor drist!
Post a Comment