Monday, August 17, 2009

mynd i gapel cymraeg (26/7/09)















Mae brecwast Marteg yn wych. Bwddwn i'n edrych ymlaen ato'r uwd perffaith a ballu bob bore. Daeth Carol i fy llofft bore Sul ar ôl iddi orffen y gwaith yn y gegin. Roedd hi mor ffeind a ches i groeso cynnes arall a sgwrs ddymunol. Byddwn i'n siarad â hi'n aml tra oeddwn i'n aros yno.

Roeddwn i eisiau mynd i'r capel Cymraeg dair gwaith fel y Cymry flynyddoedd yn ôl. Es i i Gapel Coch am wasanaeth am ddeg ac am 5:30. (Roedd yn bwrw'n drwm yn y bore. Diolch i Carol am y llift.) Roedd yna ryw ddeg o bobl ac y Parch Iorwerth Jones Owen o Gaernarfon oedd yn pregethu.

Cerddes i at Gapel Jerwsalem am wasanaeth dau o'r gloch ond doedd neb yno. Penderfynes i fynd i weld Castell Dolbadarn oedd ar y ffordd.

Sunday, August 16, 2009

swper (25/7/09)



Es i i Pete's Eat am swper y noson honno. Roedd yna hogyn yn ei arddegau tu ôl y cownter oedd yn cymryd archebion. Doedd o ddim yn edrych fel Cymro Cymraeg yn fy nhyb i ond rhoes i fy archeb yn Gymraeg rhag ofn. Ces i fy synnu felly yn clywed o'n ateb yn Gymraeg. Gwnaeth y profiad i mi fod yn fwy penderfynol o gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg, hynny ydy, sgwrs gyda'r bobl leol.

Tra oeddwn i'n bwyta caws ffacbys a bara menyn, daeth gwraig ata i a dechrau siarad Cymraeg. Dysgwraig oedd hi, ac welodd hi fy nghrys T "Siaradwch Gymraeg â fi!"

Ar ôl swper, es i'n nôl i fy llofft ac ymlacio o flaen y teledu. S4C! Hwrê! Byddwn i'n cael frechdannau, iogwrt, ffrwythau a ballu o Siop Spar i swper yn aml wrth edrych ar S4C o hynny ymlaen.

Saturday, August 15, 2009

croeso cynnes (25/7/09)






Siop y Mêl - dyna'r lle es i iddo am help. Roeddwn i'n cysylltu â nhw cyn dod i Lanberis er mod i ddim yn nabod y bobl yn bersonol. Am groeso mawr a the ardderchog (yn annisgwyl, a dweud y gwir) ges i gan Deryl ac Eirlys yno! Nhw oedd y bobl gyntaf siarades i Gymraeg â nhw ar ôl cyrraedd Cymru. 

Ces i'r gyfeiriad i Farteg. Llety gwych sy'n cael ei redeg gan gwbl Cymraeg ydy o. Ar ôl cael croeso cynnes arall gan Martin a dadbacio fy nghês yn fy llofft cyfforddus, i ffwrdd â fi i grwydro o gwmpas y dref.

Penderfynes i alw am Gwilym yn y Ganolfan Groeso gyntaf. Fo a roiodd y wybodaeth am lety Cymraeg yn Llanberis i mi'r llynedd. Roedd o'n fy nghofio i a ches i groeso cynnes gynno fo a John hefyd. Byddwn i'n galw yn y Ganolfan a Siop y Mêl yn aml am sgwrs sydyn tra oeddwn i yn y dref.

Friday, August 14, 2009

o tulsa i lanberis


Cyrhaeddes i faes awyr Manceinion o Tulsa am 8.30 yn y bore ar 25 Gorffenaf. Er bod yr awyren yn hwyr ac fedrwn i ddim cysgu o gwbl, roeddwn i'n llawn cyffro a disgwyliad. Mae'r maes awyr yma'n llai a hynod o hwylus na Heathrow. Es i'n syth i'r orsaf drên i fynd i Fangor. 

Roedd y trên o Gaer i Gaergybi yn llawn dop ac dyma boeni byddai pawb yn mynd i Lanberis efo fi! Ond dim ond ddwy ferch a aeth ar y bws wedi'r cwbl. Ar ôl camu allan o'r orsaf a gweld y dref gyfarwydd, fedwn i ddim peidio â gwenu a meddwl, "dyma fi, Gymru, unwaith eto!"

Roedd hi'n ddiwrnod arbennig o braf ac roeddwn i'n medru gweld y golygfeydd bendigedig oddi ar y bws. 

Llanberis! O'r diwedd!

Doedd gen i ddim syniad bod yna dri syfle bws yn Llanberis. Disgynnes i wrth yr un pellaf o fy llety digwydd bod ac roeddwn i'n gorfod cerdded yn ôl tuag at ganol y dref. Ond lle yn union mae'r gwely a frecwast?

Tuesday, August 11, 2009

yn ôl o gymru

Helo bawb! Diolch i chi a wnaeth roi dymuniadau gorau i mi wrth i mi gychwyn fy daith i Gymru. Dw i'n ôl yn byw ac yn iach wedi cael amser bendigedig. Hoffwn i ddechrau adrodd fy hanes cyn gynted ag y medra i. Mae'n braf cael sgrifennu fy mlog unwaith eto.

Thursday, July 23, 2009

mynd i gymru

Mae'r gwr a'r ferch wedi dod yn ôl o Japan yn ddianaf, ac rwan dw i wrthi'n pacio a rhoi trefn ar y ty i fynd i Gymru. Gadawa i brynhawn yfory a dod adref Awst 10. Bydda i yn Llanberis am ddeg noson ac yna yn y Bala am bum noson. Ceisia i dynnu cymaint o luniau ag y medra i a chadw dyddiadur. Dw i'n addo rhoi adroddiad manwl ar fy mlog ar ôl dod yn nôl. Hwyl am y tro felly!

Sunday, July 19, 2009

gwyl hufen iâ



Pwybynnag wnaeth sefydlu'r wyl hon, mae'r cynllun wedi llwyddo. Roedd Braums' dan ei sang heddiw. Ces i a'r plant iau hufen iâ blasus a wnaed yn Oklahoma wrth i'r dwsin o weithiwyr gan gynnwys fy mab hyna redeg o gwmpas y siop.