"Dyma'r neges olaf am sbel. Na fedra i sgrifennu nes i mi orffen yr holl archebion," dwedodd fy merch hynaf heddiw. Dw i'n cyfnewid negeseuon e-bost efo hi bob dydd ar wahân i benwythnosau. Mae hi'n brysur yr adeg honno bob blwyddyn cyn Halloween efo ei busnes tatŵ dros dro. Eleni mae tatŵ Conor Mcgregor yn gwerthu'n wallgof, ac mae hi'n cael hi'n anodd argraffu a danfon pentwr o archebion wedi i'r papur ar gyfer tatŵ a wnaed yn Florida'n cyrraedd yn hwyr oherwydd Corwynt Irma. Mae yna bobl eraill yn gwerthu tatŵ tebyg, ond mae ei rhai hi'n llawer gwell. (Dw i'n fod yn hollol wrthrychol!)
Tuesday, October 10, 2017
dim neges am sbel

Monday, October 9, 2017
10 hydref
Saturday, October 7, 2017
cyfarfûm â meseia
Mae gan One For Israel ryw 70 o fideo am yr Iddewon a ddaeth i gredu yn Iesu fel eu Meseia. Dechreuais i a'r gŵr wylio un bob nos yn ddiweddar. Mae pob un yn adrodd hanes anhygoel sydd yn cyffwrdd eich calonnau. Roedd bron pawb yn credu mai Pabydd neu Eidalwr oedd Iesu! A chawson nhw eu synnu o wybod mai Iddew oedd, a chafodd y Testament Newydd ei ysgrifennu gan Iddewon am Iddewon. Ar y Cristnogion ffug yn y gorffennol mae'r bai; roedden nhw'n erlid yr Iddewon yn enw Iesu. Dydy cyfamod Duw, fodd bynnag, ddim yn newid er gwaethaf pawb a phopeth. "Caiff Israel i gyd ei hachub."
Friday, October 6, 2017
olion y diwrnod
Cafodd Kazuo Ishiguro o Japan sydd yn ddinesydd o'r DU Wobr Llenyddiaeth Nobel. Dw i erioed wedi darllen ei lyfrau a dweud y gwir; dyma roi cais am fenthyg ei nofel dan sylw, sef the Remains of Day o lyfrgell leol. Does gen i ddim syniad fydda i'n ei hoffi neu beidio. Gawn ni weld. Gyda llaw, mae'n rhyfedd glywed Saesneg gydag acen Seisnig yn dod allan o wyneb cwbl Japaneaidd! Mae Gwobr Heddwch Nobel wedi troi'n arf y Rhyddfrydwyr i ddylanwadu'r cyhoedd bellach; gobeithio nad oedd yr un peth wedi digwydd i Wobr Llenyddiaeth.
Thursday, October 5, 2017
ar y pengliniau neu sefyll
Tra bod rhai pobl yn mynd ar eu pengliniau wrth i'r anthem genedlaethol yn cael ei chwarae, roedd dyn, i'r gwrthwyneb, yn mynnu sefyll ar ei draed pan ddaeth yr Arlywydd Trump a'i wraig i'w weld yn yr ysbyty. Cafodd ei saethu ei droed yn y gyflafan yn Las Vegas, ond dim ots; "anafiad neu beidio, bydda i'n sefyll i ddangos parch tuag at fy Arlywydd mae o'n ei haeddu," meddai. Da iawn chi, Thomas Gunderson!
Wednesday, October 4, 2017
sioe newydd
Mae'r sioe, Flames of Freedom gan Brifysgol Ozarks newydd gychwyn. Bydd hi'n para tan 16 Tachwedd. Seiliedig ar hanes cyn myfyriwr y brifysgol honno, mae'r sioe'n darlunio ei brofiad a'r bobl o'i gwmpas yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dwedodd fy merch fod hi'n teimlo mor dorcalonnus tra oedd hi'n ymarfer hyd yn oed. (Ches i ddim gair efo hi eto ar ôl y sioe.) Dyma gip ar y sioe. Mae fy merch yn ymddangos sawl tro!
Tuesday, October 3, 2017
modrwy shema
Mae'r fodrwy a archebais newydd gyrraedd! Roedd yn cymryd amser hir, a dechreuais boeni amdani hi tipyn bach wedi clywed am ladrad mewn swyddfa bost yn Israel. Dyma hi o'r diwedd! Gwnaed yn Israel gan ddynes leol, mae gan y fodrwy gain eiriau Hebraeg arni hi - shema Yesrael adonai eloheinu, adonai echad (Gwrando, Israel: y mae'r Arglwydd ein Duw yn un Arglwydd.) Mae hi'n hardd! Prynais un tebyg o'r blaen, ond yn anffodus fe wnes gamgymeriad ac archebu maint anghywir.
Subscribe to:
Posts (Atom)