Yr unig rheswm ddechreues i ddarllen "Holes" oedd mod i wedi clywed bod y nofel wedi cael ei chyfieithu i'r Gymraeg yn ddiweddar. Mi naeth dau o'r plant ei darllen blynyddoedd yn ôl ond dim fi achos mai llyfr plant ydy hi.
Ond fedrwn i ddim peidio darllen ar ôl i mi ddechrau. Rôn i'n ei darllen ar bob achlysur. Rhaid aros Wythnos yng Cymru Fydd nes i mi orffen Holes.
Roedd hi'n arbennig o ddifyr, yn enwedig sut oedd digwyddiadau gorffennol a phresennol cael eu dangos. Dw i'n hoffi hanes y nionod. Mae gan yr awdur ddawn anhygoel.
Mae cyfieithiad Cymraeg (Tyllau) gan Ioan Kidd yn swnio'n dda hefyd. Mi gawn ni gipolwg yma:
http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/adolygiadau/801-tyllau.shtml
Mi bryna i Tyllau yn bendant (ar ôl gorffen y llyfrau ges i yn anrhegion Nadolig!)
2 comments:
Dw i ddim wedi clywed am nofel "Wythnos yng Nghymru Fydd" erioed. Mae'n swnio'n diddorol ofnadwy. Diolch am sôn amdani.
Ydy, Tom. Mae'n ddiddorol iawn boed propaganda Plaid Cymru ar y pryd neu beidio. Mae 'na fersiwn dysgwyr hefyd. Roedd 'na raglen Radio Cymru llynedd ac mi ddarllenodd Daniel Evans fersiwn byr.
Post a Comment