Tra ôn i'n eistedd yn arosfa'r meddyg ddoe, mi nes i sylwi llun bach efo geiriau ar y wal. Maen nhw mor wir mod i wedi eu sgwennu i lawr. Dyma fy nghyfieithiad gorau. Dw i'n siwr bydd 'na un llawer gwell:
" Peidiwch â barnu diwrnod ar ôl y cynhaeaf dach chi'n ei fedi, ond ar ôl yr hadau dach chi'n eu plannu."
Y geiriau Saesneg gwreiddiol ydy:
"Don't judge each day by the harvest you reap but by the seeds you plant."
Mi naeth hyn fy nharo i. Yn aml iawn bydda i'n meddwl mod i'n gwneud fawr o ddim achos mod i ddim yn gweld 'cynhaeaf' bob dydd. Ond siwr iawn, dw i'n plannu hadau bob dydd boed da neu ddrwg.
2 comments:
Mae'r dihareb hon yn hyfryd iawn. Mae'n rhaid i mi fy atgoffa fy hun amdani mwy aml!
Diolch am dy sylw, Tom.
Post a Comment