Monday, January 7, 2008

dianc


Mi ddihangodd un o foch cwta'r plant tra oedd y plant yn chwarae efo nhw yn yr ardd gefn. I ffwrdd a fo i'r ardd ddrws nesa fel chwip. Mi gaethon ni i gyd fraw am eiliad achos bod gan y cymydog gi mawr. Ond oedd o ar dennyn ar y pryd! Mi aeth y plant i'r ardd am y mochyn cwta tramgwyddus. Ar ôl ei gwrso am chwarter awr mi naethon nhw lwyddo i ddal o.

3 comments:

Corndolly said...

Roedd gen i focyn cwta fel yr un ar y dde. Sion oedd ei enw!

Linda said...

Falch o weld diwedd hapus i dy stori am y mochyn cwta Emma :)
Llun del iawn ohonynt!

Emma Reese said...

Mae 'na gannoedd o luniau y moch cwta dynodd fy merch. Mae'r plant yn gwirioni ar y anifeiliaid.