Monday, August 4, 2008

kitty yn mecsico


Mi naeth fy merch brynu nifer o anrhegion yn Mecsico. Rôn i'n synnu gweld un ohonyn nhw, sef tlws crog Hello Kitty! Mae hi'n dweud bod HK yn boblogaidd yn Mecsico hefyd. 

Ychydig o wybodaeth i'r rhai ohonoch chi: Mi gafodd Hello Kitty ei gwneud yn Japan yn wreiddiol amser maith yn ôl.

4 comments:

Gwybedyn said...

Pert dros ben! Gobeithio iddi gael amser da yn bwyta burritos ac ati hefyd (sef fy hoff fwyd innau yn Somerville - mae ty^ bwyta Mecsicanaidd gwych (am wn i) nid nepell o'r ty^).

O ran iaith: mae "gwybodaeth fach" yn gyfieithiad o'r Saesneg "a little information", rwy'n cymryd.

Eto... nid "a little [ansoddair] information [enw]" sydd yma, fel "a little book" ond "a little [maint] (of) information", fel "a bit of information".

Felly: "ychydig o wybodaeth" neu'r tebyg sydd ei angen arnot ti yma.

Rhaid imi (sy'n anymwybodol bron o ddiwylliant Siapan) ddechrau manteisio ar dy awgrymiadau diwylliannol di ac Asuka!

Emma Reese said...

Do wir. Mi naeth y "host mother" goginio prydau o fwyd iachus a blasus bob dydd (morwyn naeth y gwaith y dweud y gwir.) Ond chaeth hi ddim burritos o gwbl. Bwyd Americanaidd mae'n rhaid.

Mi nes i sgwennu "gwybodaeth fach" heb feddwl. Ti'n iawn. Cyfieithiad "a little info" ydy hyn. Diolch.

Emma Reese said...

Cael a chael! Falch iawn mod i'n cael cywiro fy ngwall cyn iddo gael ei argraffu ym Mlogiadur yn ymyl blog Vaughan Roderick.

asuka said...

ciwt iawn! rwy'n hoff iawn o hello kitty. mae gennyn ni boster hyfryd â miss kitty arni rwy'n edrych 'mlaen at ei rhoi ar y wal yn ein ty^ newydd ni.