Tuesday, August 5, 2008

rysait lingo newydd


Y tro cynta i mi gael y saig hyfryd ma oedd yn hyˆ Corndolly llynedd. Mi naeth hi goginio cyw iâr yn ôl rysait Lingo Newydd. Roedd hi mor flasus dw i wedi ei gwneud hi sawl gwaith fy hun. Mae'r teulu'n gwirioni arni hefyd.

Mae'r cynhwysion yn eitha syml: cyw iâr, ham, caws, perlysiau cymysg. Ond a dweud y gwir, rhaid defnyddio ham a chaws Cymreig. Dydy fy nghyw iâr byth cystal ag un wnaeth Corndolly.

13 comments:

asuka said...

beth rwyt ti'n ei wneud? lapio'r cyw iâr yn yr ham a'r caws yn y canol rywsut?

Emma Reese said...

Yn union! A lapio'r peth mewn ffoil a choginio yn y popty ar 350F am 50 - 60 munud. Ac mae 'na grefi parod blasus ar waelod y caserol pan wneith popeth orffen.

asuka said...

mae'n swnio'n ffeind. (er nad wy'n bwyta cig, rwy'n dal yn gallu gweud be' sy'n swnio'n flasus!)
pobi - mae hyn'na'n ateb 'nghwestiwn nesaf i. rown i'n treio dychmygu eu ffrïo nhw a'r caws yn toddi ac yn llosgi ar y ffrimpan!

Linda said...

Mae'n edrych yn hyfryd iawn! Sut fath o gaws ddaru ti ddefnyddio?

Emma Reese said...

"extra sharp cheddar" ond ddim cystal â chaws Cymreig.

Erika said...

S'mae, mam! Dw'in hoffi dysgu camraeg typen bach, eto…typen bach. :) Dw'in dysgu frangeg, si je ne peux pas apprende une autre langue.

Gwybedyn said...

ymhlith cosydd gorau Cymru yw 'Collier's Cheddar' (Cheddar y Glowyr) - anhygoel o flasus, yn gryf a hufenaidd.

asuka said...
This comment has been removed by the author.
asuka said...
This comment has been removed by the author.
Corndolly said...

Dw i'n cofio'r rysáit a fel ti, dw i wedi coginio'r pryd o fwyd sawl waith ers hynny - ac mae'n flasus iawn ar ôl iddo fo fynd yn oer hefyd, efo salad.

asuka said...

tu ne veux pas apprendre plus de cymraeg?? t'es fille méchante! ^o^

asuka said...

tu ne veux pas apprendre plus de cymraeg??? quelle fille méchante!

Emma Reese said...

Dw i ddim yn gwybod p'un naeth Corndolly ddefnyddio, ond roedd y caws yn arbennig o dda.

O wel, Erika, mi wnaeth fy nghynllun fethu. Basa hi wedi bod yn braf tasa rhywun arall yn y teulu'n siarad Cymraeg. Dim ots. Canolbwyntia ar dy Ffrangeg.