Thursday, August 28, 2008

bedd y cymro



Mi ges i hyd iddo. Bedd Evan Jones. Er gwaetha effaith yr amser roedd yr ysgythriad pwysig yn ddigon clir.

REV EVAN JONES
Born in Wales
MAY 14, 1788

"No man has been a truer friend than he to the Cherokee people..." meddai y Parch. Daniel Rogers.

Mae trefn y rhifau ar y map yn dda i ddim. Weles i mo bedd ei fab. Doedd gen i ddim amser chwilio amdano fo. Bydd rhaid i mi geisio y tro nesa.



5 comments:

asuka said...

ardderchog, emma! tybed ife diwedd y stori yw hyn, neu ddechrau rhyw antur newydd i ti?

Emma Reese said...

Dim diwedd yn bendant. Dw i'n mynd i ddarllen llyfr amdano fo. Yna, gawn ni weld.

Emma Reese said...

Beth amdanat ti? Pryd wyt ti'n mynd i sgwennu am fwy o dy antur yn Ohio?

Linda said...

Mi wnei di dditectif da emma !Yn falch dy fod wedi cael hyd i'r bedd, a diolch i ti am gynnwys y llun ar dy flog ac am rannu dy stori efo ni.

asuka said...

cytuno'n llwyr - diolch! (ac rwyt ti yn llygad dy le, emma, rwyf finnau'n rhy ddiog o lawer! 6_6)