Saturday, August 30, 2008

bedd ar goll


Lle mae bedd John B. Jones? Mi es i'r fynwent p'nawn ma eto ond weles i mono fo. Dim ond gweddillion dau fedd ger bedd Evan. Dw i'n casglu mai un o'r ddau ydy bedd John. Dw i bron yn siwr achos dyna le dylai fod yn ôl y map.


Mi ges i hyd i fedd gwraig John (Jennie.)  Mae o yn gyferbyn â bedd Evan. Mi roies i flodau iddyn nhw i gyd.

5 comments:

Gwybedyn said...

Emma! mi ddywedaist ti nad nofel ddirgel oedd yr hanes yma am Evan Jones a'i deulu!

Emma Reese said...

Wel, rhaid i mi fodloni ar beth ges i hyd iddo. Wna i ddim chwarae ditectif. Ella bod Dr. Hunter yn gwybod be ddigwyddodd i fedd John a chawn ni ddarllen amdano fo yn ei llyfr newydd.

asuka said...

bydda i'n disgywl ffilm am dr. indiana hunter ac emma reese a chyfrinach y bedd...

Emma Reese said...

Ond does 'na ddim digon o nadroedd yma!

Gwybedyn said...

re nadroedd: arhoswn i weld pwy (neu beth) ddygodd y bedd... ac am ba reswm!