Friday, December 12, 2008

pos i ddysgwyr

Gwrandewch ar fwletin y Post Cynta ar Radio Cymru heddiw (ddydd Gwener.) Ar ddiwedd y bwletin, mae Dyfan Tudur (fy hoff gyflwynydd gyda llaw) yn sôn am ddigwyddiad diddorol. Atebwch y cwestiynau canlynol:

1. Pa declyn arbennig gaeth ei werthu mewn arwerthiant yn Hollywood yn ddiweddar?
2. Am faint gaeth o'i werthu?
3. I beth gaeth o'i ddefnyddio yn y gorffennol? (dau beth)
4. Pam fethodd Dylan Ebeneser ateb cwestiwn Dyfan Tudur?

Fydd 'na ddim gwobr i'r enillydd ond bydd yn hwyl! (Antwn a Marjorie, mi gewch chi yrru eich atebion ata i drwy e-bost!)

5 comments:

Gwybedyn said...

Dydw i ddim yn "ddysgwr", efallai, ond es i draw, beth bynnag, i geisio'r cwis. Ond rwy'n methu â ffeindio'r darn cychwynnol yma. Ar ôl y penawdau does dim ond chwaraeon ac yna Ddyfan Tudur yn darllen y bwletin, a sôn am ysbytai a cheir America maen nhw: http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b00ftl8w/Post_Cyntaf_12_12_2008/

Ydw i wedi cael y rhaglen anghywir, tybed?

Gwybedyn said...

aha! mae'r darn newydd ymddangos yn 5'55" - ar ddiwedd y bwletin.

Tipyn o stori! Tipyn o bris!!!

Emma Reese said...

Sori. Bwletin ô'n i'n feddwl, dim penawdau! Na i gywiro fy mhost!

asuka said...

a phwy a brynodd e? nid mab hŷn emma reese oedd e? ^^

Emma Reese said...

Rhyw filiwnydd sy isio rhywbeth go arbennig i benblwydd ei fab ella.