![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEgYBoBv2hugD4caAkY3aovSFHzeWG_M1ELAM7W5gWjUPIQmqD4Ee4my9YwWHrou7vmIIXar7kVBEc5yIpiESHnTMfxz1ngeNIVNfkaqNj7Qtxrg6KJbXfgUiRxP6bPzyogYZJ0RejQPXHM/s200/sando.jpg)
![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEhExDpOl7MkWqW7hzg-tRd3g06KNGGCbRQwY69XXXnyKhEmT0IKPx6EPPoqd9astsMkzw3ZXJWxNmZq3Y006cr0eIK43E1Kqh5Lwnp_3T4upTqr2xoFu66QUrTi7mxhtZDEm6Kdm4A62fI/s200/namiki.jpg)
Mae 'na gaffi bach poblogaidd ger y brifysgol. Cewch chi fwyta salad tatws gorau yn ôl 'ngwr. Felly es i yno efo fo ac un o'r myfyrwragedd Japaneaidd am ginio. 'Iguana Cafe' ydy'r enw. Roedd 'na gryn dipyn o gwsmeriaid er bod wyliau'r Nadolig wedi cychwyn. Clyd iawn oedd y tu mewn wrth i 'wood burning stove' ei gynhesu. Mi ges i frechdan Igwana (does 'na ddim cig igwana ynddi hi i chi!) efo'r salad tatws enwog. Roedd popeth yn wir flasus. Ac mi wnes i fwyta pob tamaid!
No comments:
Post a Comment