Tuesday, December 9, 2008

meddwl ar fy mlog

Dw i wedi bod yn mwynhau fy mlog yn arw dros flwyddyn. Dw i'n gwerthfawrogi'r cyfle ardderchog i sgrifennu Cymraeg a chael sylwadau. Gan fod o'n cael ei ddarllen gan bobl eraill, dw i'n ceisio sgrifennu cyn gywired â bo modd, ond mae'n amhosibl osgoi gwallau. (Diolch i ti szczeb am dy help!) Ac dim ond digwyddiadau beunyddiol mewn teulu mewn tre fach wledyg yn Oklahoma dw i'n sgrifennu amdanyn nhw. Felly yn aml iawn dw i'n cael fy nghyfareddu at weld darn fy mhost union uwch neu o dan un Vaughan Roderick neu Dogfael ar wefan blogiadur. Mae hyn yn rhyfeddod  a braint ac rhaid cyfadde bod'n bleser hefyd. Mae'n anodd cael hyd i bynciau weithiau ond ddal i sgrifennu wna i siwr.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Wnai ddim dweud mod i'n darllen pob cofnod ti'n sgennu, a fel arfer does dim diddordeb gyda fi mewn blogiau bywyd personol, ond am ryw reswm mae darllen blogiau Cymraeg o America'n compelling ofnadwy, bron iawn yn egsotig - dw i'n siwr does neb wedi dweud hynny am fywyd Oklahoma o'r blaen!

Dal ati - mae'n ysbrydoliaeth i lawer o ddysgwyr yng Nghymru dw i'n siwr, sydd efallai'n darllen dy flog ond yn rhy swil i adael sylw.

asuka said...

clyw clyw!
mae'n hawdd dechrau dysgu cymraeg, ond anodd iawn yw parhau gyda hi. rwy'n siwr bod hi'n wych i ddysgwyr eraill weld sy'n dala ati ac sy 'di cyrraedd safon mor dda - er gwaetha bod yn bell o gymru.

Emma Reese said...

Diolch i chi, Rhys ac Asuka am eich geiriau clên. 'compelling' ac 'egsotig'!! *o*