tipyn o gysur
Dw i newydd ddod ar draws peth bach difyr, i mi o leia - darn o'r recordiad wnes i i ymarfer siarad ddwy flynedd yn ôl. Dw i'n swnio'n ofnadwy rwan ond dôn i ddim yn sylweddoli mod i'n swnio'n waeth fyth pryd hynny! Mae hyn yn golygu mod i wedi gwella faint mor fach bynnag ydy'r cynnydd. Dyma dipyn o gysur. (Ac rôn i'n dweud 'fe' yn hytrach na 'fo' ar y pryd. ^^)
Dw i'n dal i recordio fy ymarferion siarad. (Dw i'n hen gyfarwydd â'r gwaith poenus o wrando ar fy hun bellach!) Mi wna i gadw darn er mwyn cael gwrando arno fo flwyddyn nesa. Gobeithio swnia i'n ofnadwy pryd hynny.
3 comments:
gwaith da, Emma! Ond paid â digaloni - mi gei di'r "ef" safonol yn ôl gyda dim ond ychydig yn rhagor o ymarfer! ^^
wm.... diolch
Da iawn ti Emma !
Post a Comment