Dim ond y twr sydd ar ôl lle oedd Castell Dolbadarn. Es i i fynny'r grisiau troellog, serth a rhyfeddu mai Llyweryn Fawr oedd yn byw yma ar un adeg. Cerddes i ar lwybr drwy goedwig yn ôl i'r dref wedyn. Roedd popeth yn anhygoel o wyrdd.
Gweles i arwydd oriel gan artistiaidd lleol a mynd i mewn. Roedd y rhan fwyaf o'r lluniau'n adlewyrchu golygfeydd yr Eryri wrth reswm. Roedd yna un artist oedd yn arbennig o dda, y gorau yn fy nyb i. Roeddwn i'n gwirioni ar ei lun o Gastell Dolbadarn a'r mynyddoedd mewn hanner tywyllwch. Ond roedd yn rhy fawr a drwm i ddod â fo adref (a thipyn yn rhy ddrud i mi a dweud y gwir.) Ces i sgwrs sydyn gyda ddyn oedd yn gwarchod yr oriel. Fo oedd fy hoff artist, Arnold Jones, digwydd bod! Dyma brynu llun bach digon ysgafn o'r castell gynno fo a chael ei lofnod ar y gefn. Roedd o'n rhyfeddu byddai ei lun yn mynd i Oklahoma!
3 comments:
Anhygoel ! Os siawns i ti dynnu llun o lun y castell ac yn ei yrru ataf fi, neu rhoi ar dy flog? Hoffwn i weld ei waith hefyd.
Wnes i drio ond methu oherwydd y gwydr.
Paid â phoeni, ond pe taset ti'n dod o hyd i'w wefan o, byddet ti'n dweud wrthyf i?
Post a Comment