Yn y maes brynhawn Mercher casglodd y Cymry a rhai o dras Gymreig sy'n byw tu allan i Gymru. Ces i fynd gyda Linda ac Idris i De Bach drefnwyd gan Undeb Cymru a'r Byd. Roedd yna ryw 80 o bobl o 20 gwlad gan gynnwys Twrci a Venezuela. Gwych oedd clywed nhw'n siarad Cymraeg.
Y criw o Batagonia oedd yno hefyd. Roedd yn brofiad unigryw i mi gyfarfod Vincent Evans a'r lleill. Yr unig iaith cyffredin rhyngddon ni oedd y Gymraeg gan nad ydyn nhw'n siarad Saesneg ac nad ydw i'n medru Sbaeneg.
I mewn i'r Pafiliwn am y seremoni fach yn croesawu'r 80 dilynwyd gan seremoni'r Fedal Rhyddiaith. Roedd yn braf gweld merch ifanc leol, Siân M. Dafydd yn enillydd. Roeddwn i wrth fy modd yn gweiddi "heddwch" gyda'r gynulleiddfa a hefyd canu Hen Wlad ar goedd.
Yna daeth amser i ffarwelio â Linda ac Idris. Roedd yn hyfryd eu cyfarfod a threulio dau ddiwrnod gyda nhw. Aethon nhw i'r dde tuag at y maes parcio a finnau i'r chwith ar y llwybr plastig coch a thros Bont Tryweryn at fy llety.
No comments:
Post a Comment