Wednesday, September 2, 2009

yr eisteddfod! (4/8/09)



Mae hi'n bwrw glaw. Mae'n anodd ffarwelio â Carol a Martin wedi i mi aros yn eu llety am ddeg noson a dod i'w nabod nhw. Rhoiodd Carol dafell drwchus o'i Bara Brith i mi. Dyma Gwilym gyda ei ddau ffrind ddaeth i roi llift i mi i'r Bala.

I ffwrdd â ni i'r Eisteddfod drwy'r ardaloedd gwyrdd, prydferth. Betws-y-Coed, dacw'r Goets Fawr yn ymyl y ffordd! "Wnaethoch chi godi'n fore?" gofynodd Alwena. "Codi'n gynnar ydy codi'n fore," esboniodd Gwilym wedi clywed y saib gynna i.

Y Maes. Y Pafiliwn. Y stondinau. Y mwd. Mae glaw Llanberis wedi'n dilyn ni i'r Bala. Dw i'n cerdded o gwmpas y maes yn rhyfeddu at bob dim. Dyma stondin telynau. Adawodd merch glên i mi drio canu un ohonyn nhw. Dyma Aran Jones o Saysomethinginwelsh yn stondin Cymuned.


2 comments:

Linda said...

Ah ! Lluniau gwych ohonot ti efo'r delyn ac efo Aran.
Mae'r atgofion am Y Bala yn llifo'n ôl ac yn codi hiraeth arnaf unwaith eto .

Emma Reese said...

Ydy wir. Dw i'n hiraethu am y Bala a Llanberis hefyd.