Tuesday, September 29, 2009

plac newydd


Roedd ein 'Ford Windstar' a oedd wedi bod yn ein gwasanaethu dros ddeg mlynedd yn gorfod ymddeol yn ddiweddar. Roedd yn drist ei weld o ym maes parcio 'Ford' lle adawodd fy ngwˆr o am y tro olaf. 

Fy ngwˆr sy'n gyrru'n bennaf 'Ford Explorer' a brynon ni ddyddiau'n ôl . Felly, y fi sy'n gyrru ei 'Ford Focus' bellach. Roedd yna blac eryr arian o flaen y car ond dyma benderfynu cael un newydd. Ac dw i wrth fy modd.

4 comments:

Linda said...

O...gwych ! Lle gefaist ti'r Ddraig? Mae gennym un debyg iddo , ond fod yn rhaid i ni ei roi o dan ein license plate.
Ardderchog :)

Emma Reese said...

Ar y we. Mi gawn ni ddangos beth bynnag mynnwn ni ar blaciau blaen y ceir yn UDA.

Corndolly said...

Rhaid i ni roi'r rhif ar flaen y car ac ar y cefn. Ond mae'n edrych yn wych !

Emma Reese said...

Diolch!