Tuesday, September 1, 2009

ffarwel i lanberis (3/8/09)



Mae hi wedi bod yn hyfryd aros yn Llanberis yn cyfarfod y bobl leol glên a gweld y golygfeydd anhygoel. Wrth gwrs mod i'n awyddus mynd i'r Eisteddfod yfory ond bydda i'n colli Llanberis hefyd.

Ces i helpu Eira bore ma eto. Yna, penderfynes i gerdded o gwmpas y dref i ddweud ffarwel â'r bobl a'r lle er gwaethaf y glaw mân - y Ganolfan Groeso, Siop y Mêl, yr arddangosfa luniau, Siop Spar... Dw i wedi prynu brechdannau, ffrwythau, iogwrt a ballu bron bob dydd yn Siop Spar a dod yn gyfarwydd â'r gweithwyr yno. "Ti isio bag?" - y cwestiwn faswn i'n disgwyl ei glywed bob tro.

Cerddes i ar y llwybr arall ar hyd Llyn Padarn i'r Gorllewin drwy'r twnnel nes cyrraedd diwedd y llyn. Des i'n ôl i'r llety wedi blino'n braf.

2 comments:

neil wyn said...

Dwi wedi mwynhau darllen dy adroddiadau o Lanberis yn fawr iawn, diolch yn fawr! Mi gerddom ni yn ôl o Lanberis ar hyd yr un lôn, a dwi'n cofio tywyllwch y twnel yn iawn.

Ro'n ni'n aros dim ond hanner milltir o ben draw Llyn Padarn yng Nghwm y Glo.

Emma Reese said...

Dyna ti! Tywyllwch y twnnel! Roedd rhaid i mi gerdded yn ofalus heb fedru gweld dim byd am funud neu ddau!