'Geriach' ydy'r gair y tro hwn. Un o'r geiriau dw i wedi ei ddysgu yn Uned 20, uned olaf y cwrs Cymraeg trwy'r post, a gair rhyfedd braidd ydy o achos fod o'n swnio fel ansoddair cymharol - rhatach, iachach, oerach, geriach. Ond enw ydy o.
Dw i wedi dechrau darllen 'o Law i Law' a brynes i'n ail law ym maes yr Eisteddfod. Wrth gofio mynd i'r dref Caernarfon am ddiwrnod o hwyl gyda'i ewythr, mae John Davies, y pryf gymeriad yn adrodd beth ddwedodd ei fam wrth ei brawd:
"Daliai fy mam fod f'ewythr yn fy nifetha'n lân a châi ef siars ganddi, pan adawem am y trên, i beidio â phrynu melysion a phob math o 'hen geriach' imi yn y dref."
Does yna ddim treiglad meddal ar ôl 'hen' gyda llaw?
4 comments:
Credaf mai gwrywaidd ydi'r gair felly nid oes angen treiglad.
O bosibl ei fod yn dod o'r Saesneg 'gear', yn yr ystyr o 'climbing gear' neu 'painting gear'.
Ond dw i'n credu bod 'hen' yn achosi treiglad meddal i bob gair sy'n ei ddilyn, gwrywaidd neu fenywaidd (hen ddyn, hen ddynes ayyb.)
Ie. Chi sy'n iawn, Emma. Mae 'hen' yn sbarduno treiglad meddal ar bob gair (sy'n dechrau â sain priodol); dyw'r genedl ddim o unrhyw bwysigrwydd.
Yn ddiddorol, mae'r gair dych chi'n ei drafod yn bodoli mewn dwy ffurf, sef geriach a ceriach, ac mae'r ail yn treiglo'n feddal i geriach yn hollol rheolaidd.
Ceriach! Ella mai hwn ydy'r gair gwreiddiol yn yr achos hwn a chaeth o'i dreiglo yn geriach ar ôl 'hen.'
Post a Comment