Thursday, November 11, 2010

gorymdaith




Mae hi'n Veterans Day heddiw yn yr Unol Daleithiau. Fel nifer mawr o lefydd eraill dros y wlad, mae'r dref hon yn cynnal gorymdaith bob blwyddyn. Ymunais i'r trigolion eraill i anrhydeddu'r veterans lleol. Roedd gryn dipyn o dyrfaoedd ar ddwy ochr y stryd fawr gan gynnwys plant yr ysgolion. Cyfrannodd bandiau pres, injans tân a cheffylau i fywiogi'r achlysur.

1 comment:

neil wyn said...

Mi fydd 'na orymdaith hefyd yn fan hyn ond ar ddydd sul, sef 'Sul y Cofio', gyda lluoedd cadets y fyddin a phob gwasanaeth lifrog arall yn ymgasglu o amgylch y cofeb rhyfel. Gaethon ni ddwy funud o ddistawrwydd yn ol y trefn ar 11O'gloch ar yr unarddegfed o fis Tachwedd yn gynnharach yn yr wythnos.