Mae pawb eisiau bywyd da wrth gwrs. Y cwestiwn ydy "sut?" Y lle gorau i ddechrau ydy cael ein cymodi â Duw trwy ffydd yn Iesu Grist. Fydd hi ddim yn ddigon dechrau yn dda, fodd bynnag. Mae angen i ni barhau mewn ffydd a gorffen yn dda. Does dim pwynt os byddwn ni'n gorffen yn ddrwg.
Friday, October 30, 2026
Wednesday, October 28, 2026
eisiau gwybod y ffeithiau?
Monday, October 26, 2026
clark
Aeth person arall at Iesu yn ddiweddar. Roedd Clark, ffrind i ffrind, cyn-filwr rhyfel Fietnam, yn dioddef o salwch ofnadwy ar ôl y rhyfel. Roedd yn gwrthod popeth Cristnogol yn llwyr tra oedd yn yr ysbyty. Cyffesodd ei bechodau a chredu yn Iesu, fodd bynnag, ddeuddydd cyn marw! Haleliwia!
Saturday, October 24, 2026
y gorffwys go iawn
Dych chi wedi blino yn y byd prysur hwn? Mae'r Meseia yn dal i'ch gwahodd chi i ddarganfod y gorffwys go iawn:
"Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi," meddai Iesu.
Friday, October 23, 2026
70 neu 80
ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith," meddai Moses.
Wrth gwrs mae rhai yn byw hirach, ond maen nhw, hyd yn oed, symud tuag at yr un diwedd â phawb arall, sef marwolaeth. Dych chi'n barod?
Wednesday, October 21, 2026
etholiad
Dydy neb yn siŵr pwy ddwedodd hyn, ond mae'n wir beth bynnag.
Ewch bawb i bleidleisio! Dewiswch bobl dda.
Monday, October 19, 2026
gweddi babi
"y bore yma, plygodd L (ei merch 2 oed) ei dwylo cyn brecwast, a dweud ei bod hi'n mynd i weddïo yn lle Momi. Dyma oedd ei gweddi:
“Iesu … diolch am…y cinio hwn. Helpi … Dadi. Mae o yn y swyddfa. Iesu, amen!”
"O enau babanod a phlant sugno," meddai'r Beibl!
Friday, October 16, 2026
rheswm
Dw i'n teimlo'n ddigalon yn aml wrth ddarllen hanes Israel a'i brenhinoedd yn yr Ysgrythur - sut roedden nhw'n troi eu cefnau ar eu Duw tro ar ôl tro er bod nhw'n cael eu bendithio cymaint ganddo. Mae rheswm sydd, fodd bynnag, fel dwedodd Paul:
"Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder."
Wednesday, October 14, 2026
pan fydd ef yn ymddangos
"Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae. Ac y mae pob un y mae'r gobaith hwn ganddo, yn ei buro ei hun, fel y mae Crist yn bur," meddai Ioan.
Mae Joshua Aaron yn canu'r gobaith hwn hefyd.
Tyrd, Arglwydd Iesu!
Tuesday, October 13, 2026
y gobaith
Dwedodd hefyd, "pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf.....
ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus."
Dyma'r gobaith pawb sydd yn credu yn Iesu Grist.
Monday, October 12, 2026
peidiwch â gohirio
"Peidiwch â gohirio tan yfory'r hyn medrwch chi ei wneud heddiw."
Benjamin Franklin neu bwy bynnag dwedodd hyn, mae'n wir, yn enwedig am y dewis pwysicaf yn y bywyd, sef credu yn Iesu Grist neu beidio. Bydd yn penderfynu lle dych chi'n treulio tragwyddoldeb ar ôl i chi farw.
Saturday, October 10, 2026
dewis a chanlyniad
"bydd yr ARGLWYDD gyda chwi os byddwch chwi gydag ef. Os ceisiwch ef, fe'i cewch; ond os cefnwch arno, bydd yntau yn cefnu arnoch chwithau."
Mae gan bawb ddewis - dewis i geisio Duw neu beidio, i gredu ynddo neu beidio. Bydd y canlyniad yn hollol wahanol, fodd bynnag. Ac felly dewiswch yn ofalus.
Friday, October 9, 2026
dinasyddiaeth ddeuol
Fel Cristnogion, dan ni'n byw yn y byd, ond dydyn ni ddim yn perthyn iddo.
Wednesday, October 7, 2026
hydref 7
"Byth eto," maen nhw'n dweud ers yr Holocost. Digwyddodd y gyflafan heddiw tair blynedd yn ôl fodd bynnag. Bydd yn dal i ddigwydd oni bai i bawb ddeffro a gwrthod cael ei dwyllo gan y celwydd.
Saturday, October 3, 2026
angladd fy mam
Cynhaliwyd angladd fy mam ddoe yn ei heglwys yn Tokyo, mynychwyd gan y teulu a'i ffrindiau. Methais i fynd oherwydd fy nghyflwr iechyd. Gwelais bopeth, fodd bynnag, drwy Zoom, diolch i'r dechnoleg fodern. Y gwahaniaeth mawr rhwng angladdau Cristnogol a'r lleill ydy llawenydd a gobaith ymysg galaru. Llawenydd bod yr ymadawedig yn byw gydag Iesu yn y nefoedd; gobaith y byddwn ni'n cael gweld nhw eto un diwrnod.
Thursday, October 1, 2026
yn ei amser
Un o'r adnodau ar wal fflat fy mam oedd hon. Hollol wir. Cafodd fy ŵyr ei eni saith mis yn ôl; bu farw fy mam pum diwrnod yn ôl. Popeth yn ei amser iawn. Boed gogoniant i Dduw tragwyddol, hollalluog, hollwybodol, cariadus, trugarog, ffyddlon, amyneddgar.
