cacen avengers
Dathlon ni ben-blwydd fy mab ifancaf ddyddiau'n ôl er bod ei ben-blwydd go iawn ar y 5 Gorffennaf. Bydd y teulu i gyd heblaw fi oddi cartref pryd hynny - ei dad yn Japan, ei ddwy chwaer mewn cynhadledd ieuenctid yn New Orleans, ei frawd yn Texas yn cychwyn ei swydd. Roedd o eisiau cacen siocled, felly bu. Mae o a'r lleill wrthi'n gwylio Avengers yn ddiweddar. Felly gosodais i Lego (a gafodd o'n anrheg) arni hi. Maen nhw ar siocled, ddim ar fwd!
2 comments:
Yum, roedd fy mam innau'n mynd i lot o drafferth wrth greu cacen pen-blwydd i minnau hefyd pan o'n yn blentyn, rhywbeth bydda i'n cofio am byth.
Chydig oddi ar y pwnc, dyma flog (yn Saesneg) gan Gymro Cymraeg sy wrthi'n teithio trwy dalaith Oklahoma http://oklahoma2012.blogspot.co.uk/
Diolch am y linc. Am syrpreis! Doedd gen i ddim syniad.
Post a Comment