mae yna bedwar
Roeddwn i'n meddwl mai dau fabi yn y nyth wrth y drws ond mae yna bedwar. A syrthiodd un ohonyn nhw ddyddiau'n ôl. (Gosododd fy merch glustog dan y nyth rhag ofn!) Roedd ei fam yn ei fwydo lle'r oedd o, ond wrth gwrs roedd o mewn perygl. Fe wnaeth fy mab hynaf roi'r aderyn yn ôl at y nyth (yn gwisgo menig.) Mae'r bychan wedi setlo'n braf yn ffodus. Gobeithio y byddan nhw i gyd yn hedfan i ffwrdd yn ddiogel yn fuan.
2 comments:
Mae nhw'n hynnod o ddel - da iawn dy fod ti wedi achub rhai ohonno nhw!
Ydyn! Gobeithio na wnân nhw syrthio eto!
Post a Comment