hwrê i'r ffôn symudol
Roeddwn i'n arfer gorfod derbyn hanner dwsin o alwadau ffôn diangen bob dydd. Fedrwn i ddim peidio ateb pob galwad rhag ofn mai gan y teulu roedd o. Does dim rhaid i mi ei wneud o mwyach wedi cael gwared ar y ffôn cartref. Mae'n wych! Braf gwybod pwy sy'n fy ngalw cyn ateb y ffôn hefyd (er bod hyn yn hollol normal i'r rhan fwyaf o bobl bellach.) Yr unig golled ydy nad ydw i'n cael dweud, "Mae'n ddrwg gen i. Dw i'n brysur rŵan. Sgen i ddim amser" yn Gymraeg wrth y gwerthwyr!
No comments:
Post a Comment