Mae fy nau fab wrthi'n gweld y Bencampwriaeth Pêl-droed Ewrop ar y teledu bob dydd. Maen nhw'n mynd i'r brifysgol leol lle cân nhw gysylltiad rhyngrwyd gwych. Roedden nhw'n arfer gweld gêm yn y bore, dod adref am ginio sydyn, a mynd ôl i weld gêm arall yn y p'nawn. Roedden nhw'n gweld dwy gêm ar yr un pryd yr wythnos yma wrth i'r bencampwriaeth nesau at y gêm derfynol.
Efo cymaint o bêl-droed yn eu pennau, aethon nhw i chwarae gêm eu hun efo ffrindiau fy mab hynaf ddoe. Yn ymysg hogiau yn eu 20au, chwaraeodd fy mab ifancaf (12 oed) yn dda a sgorio gôl hyd yn oed! Effaith gadarnhaol y Bencampwriaeth heb os!
No comments:
Post a Comment