“Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.” - y Beibl
Pa enw? - Iesu Grist
“Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.” - y Beibl
Pa enw? - Iesu Grist
Mae un o fy merched yn gweithio'n rhan amser mewn tŷ bwyta yn Sydney. Daeth cwsmeriaid, cwpl Iddewig. Dechreuodd hi gael sgwrs sydyn wrth iddi weini. Dwedodd hi wrthyn nhw ei bod hi a'i theulu yn caru Israel a'r bobl. (Mae ganddi enw Hebraeg, wrth gwrs.) Roedden nhw mor falch i gael cymaint o groeso cynnes annisgwyl. Gobeithio y byddan nhw'n dychwelyd, a dod â'u ffrindiau gyda nhw.
Cwestiwn hen-oesol: pam fod pethau drwg yn digwydd i bobl dda?
Roedd gan Job yn y Beibl yr un cwestiwn. Does dim ateb. Mae cynifer o bethau nad dyn ni'n deall yn y byd, oherwydd nad Duw dyn ni. Da yw Duw, fodd bynnag, ac mae o'n caru'r byd. Dyna pam ei fod o wedi dod i'r byd fel Iesu er mwyn ein hachub ni. Byddwn ni'n deall llawer mwy pan fyddwn ni'n ei weld o yn wyneb yn wyneb un diwrnod.
Prynais botel o win o Israel eto, gydag arian a ges i yn anrheg benblwydd. Fe'i gwnaed gan Winllan Ucheldiroedd Golan yn 2024. Mae'n anhygoel bod y winllan yn dal i gynhyrchu gwinoedd er gwaethaf y bomiau gan Hezbollah a ballu. Dw i a'r teulu'n cefnogi Israel.
Daeth Marcus, ein dyn-o-bob-gwaith i olchi drws y garej a'r dec cefn cyn rhoi paent newydd arnyn nhw. Gofynnodd y gŵr i iddo wneud nifer o brosiectau o gwmpas y tŷ. Gweithiwr medrus, clên a gonest ydy o. Mae'n anodd ffeindio gweithwyr gweithgar fel o yn ddiweddar. Dw i'n ddiolchgar tu hwnt amdano fo.
Er gwaethaf pawb a phopeth, mae Duw ar yr orsedd. Holl nerthol, cyfiawn, trugarog, ffyddlon ydy o. Mae ganddo gynllun perffaith.
Fe ddaw'r Arglwydd Iesu'n fuan fel Brenin buddugol y tro hwn, nid fel Oen Duw; fe ddaw fel lleidr yn y nos. Pan fydd pobl yn dweud, “Dyma dangnefedd a diogelwch." Does dim rhaid i chi ofni, fodd bynnag, OS dych chi'n credu yn Iesu, ac yn dal yn ffyddlon hyd at y diwedd.
"Oherwydd nid i ddigofaint y penododd Duw ni, ond i feddu iachawdwriaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a fu farw drosom, er mwyn inni gael byw gydag ef, p'run bynnag ai yn effro ai yn cysgu y byddwn."
Peidiwch â gohirio felly; Galwch ar ei enw ac edifarhewch eich pechodau tra bod y drws ar agor.
Mae murlun fy merch yn seiliedig ar hanes y Proffwyd Eliseus yn yr Hen Destament.
Roedd ceffylau a cherbydau gelyn Israel yn amgylchynu Dothan er mwyn ei ddal. Dwedodd wrth ei was ofnus, "Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy." Pan agorodd yr ARGLWYDD ei lygaid, welodd y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o'u cwmpas nhw.
Mae ffilm ddogfen am y gweithrediad milwrol anhygoel o feiddgar gan Israel newydd gael ei ryddhau, o'r enw Paging Hezbollah. Dechreuais a'r gŵr wylio trelar y ffilm. Yn sydyn, cawson ni olwg ar y murlun cyfarwydd. Murlun a baentiodd ein merch hynaf ar wal (yn 2019) rhwng Israel a Lebanon ydoedd! Mae twneli Hezbollah wedi mynd, ond mae'r wal a'r murlun yn dal i sefyll.