Beth ddwedodd Paul wrth i'r Corinthiaid?
"....bydd yr utgorn yn seinio, y meirw yn cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid."
Felly, Gŵyl y Trymped Hapus!
Doeddwn i erioed wedi clywed Elizabeth von Arnim o'r blaen, a dweud y gwir. Des o hyd i'r llyfr clywedol ar ddamwain, a dechrau gwrando arno fo. Ces i fy nghyfareddu gan ddull unigryw hyfryd yr awdures - dadansoddiad meddyliau'r cymeriadau, a sut maen nhw'n plethu gyda'i gilydd yn gymhleth. Rhaid canmol y darllenwr, Helen Taylor am ei champwaith hefyd. Darllenodd hi gyda chymaint o deimladau ac angerdd. Argymhellir yn gryf.
Hannah Szenes ydy thema murlun nesaf fy merch. Hi oedd yr arwres a safodd yn ddewr yn erbyn y Natsïaid er mwyn achub yr Iddewon yn Hwngari. Dienyddiwyd gan sgwad tanio yn 23 oed. Gwrthododd fwgwd gan syllu’n feiddgar ar ei ysgutorion. Bydd fy merch yn hedfan i San Diego yfory i greu'r murlun ynghyd ag artistiaid menywaidd eraill.
Mae criw ffilm wrthi'n ffilmio cyfres newydd Netflix yn Ninas Efrog Newydd. Hit and Run ydy'r teitl, a Lior Raz, prif gymeriad Fauda a ysgrifennodd y stori ynghyd a'r lleill. Mae o'n actio hefyd. Dim ond dyddiau'n ôl gofynnodd i fy merch hynaf i ddylunio tatŵ samurai. Aeth hi i'r lleoliad ffilmio i weld o ddoe. Dyma ei gwaith. Mae o eisiau iddi wneud un arall mawr ar gyfer ei gefn.
Daeth fy merch â thryledwr aroma gyda hi. Mae o mor fach a del fel prynais un hefyd. Mae o'n gweithio'n dda. Dydy o ddim yn rhoi gormod o stêm fel y lleill a digon bach i'w symud yn hawdd. Dw i'n gwirioni ar y ffurf sydd yn fy atgoffa i o onigiri (pêl reis gyda gwymon.) Dw i'n medru cysgu'n well gyda fo wrth fy ngwely.

Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn teithio unwaith eto, i Efrog Newydd eto. Mynychu cynhadledd grŵp Philos ydy'r amcan. Dydyn nhw ddim yn peintio murlun, ac felly maen nhw'n cael ymlacio ac mae ganddyn nhw amser i gerdded o gwmpas. Aethon nhw i'r MET (amgueddfa gelf yn Ninas Efrog Newydd) y bore 'ma. Ymysg y mynydd o'r arddangosfeydd, ffeindion nhw Ruben, eu ci annwyl!
Es i Newk's eto gyda'r gŵr a'n merch ni. Y tro 'ma, dewisais o'r fwydlen yn gall, ac roedd popeth yn flasus - pizza llysiau a chawl Fecsicanaidd (ynghyd â seidr afal wrth gwrs.) Eisteddon ni at fwrdd tu allan lle cewch chi olwg braf. Efallai bod hi'n rhy boeth i'r lleill; cawson ni'r lle i ni ein hunain. Na fydda i'n meindio mynd yno eto.
Ysgrifennodd fy merch yn Japan erthygl i wefan dwristiaid ar gyfer ymwelwyr o dramor. Ysgrifennodd hi am Ningyo-cho (tref ddol) lle mae Morinoen, siop de lle mae hi'n gweithio iddi. Mae hi'n gyfarwydd â'r dref erbyn hyn, ond mae'n amlwg iddi wneud tipyn o waith ymchwil. Mae'r erthygl yn bleserus darllen, a gwneud i mi eisiau ymweld â Ningyo-cho.
O'r diwedd prynais recordydd tâp bach, wedi taflu allan y ddau a oedd gen i flynyddoedd yn ôl. "Pwy sydd eisiau'r hen declyn bellach?" roeddwn i'n meddwl ar adeg honno. Roedd edifar gynna i ers hynny. Mae gen i sawl tâp dw i eisiau gwrando arnyn nhw wedi'r cwbl. Wrth gwrs bod yna fodd i wrando ar y cyfrifiadur, ond mae'n rhy gymhleth i mi. Mae'r recordydd yn gweithio'n berffaith, ac mae'r hen dapiau mewn cyflwr ardderchog hefyd. Hwrê!
Cafodd dri o bobl eu bedyddio ddydd Sul - un fam ifanc a dau yn eu harddegau. Un o'r ddau oedd merch y gweinidog sydd gan Syndrom Dawn. Rhoddodd hi ei thystiolaeth o flaen y gynulleidfa yn dweud bod hi'n credu yn Iesu Grist a fu farw drosti, ac eisiau ei ddilyn yn ffyddlon ar hyd ei hoes. Roedd yn achlysur llawen i bawb.
Pen-blwydd fy mab hynaf ydy hi heddiw. Gofynnais iddo sut byddai fo'n dathlu. Cafodd ginio gwych gyda'r teulu ddoe, a rŵan mae o'n cael rhyw oriau distaw ar ben ei hun yn bwyta cacen gaws ac yfed coffi yn y cwpan a gafodd yn anrheg pen-blwydd. Aeth ei wraig â'u ddau fabi allan er mwyn rhoi amser rhydd iddo fel rhan o'i anrheg. Yr anrheg gorau i rieni sydd wrthi'n magu plant!
Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn dal i baentio. Dyma gip arnyn nhw. Cewch chi nodi pa mor fawr ydy'r murlun hwnnw. Does gen i ddim syniad sut mae hi'n medru gweld beth mae hi'n ei wneud mor agos at y wal. Bydd yna wibdaith i weld yr holl furluniau, parti, cerddoriaeth, bwyd a chwrw lleol i ddiweddu'r ŵyl dros y penwythnos.
Y tymor pen-blwydd wedi cyrraedd. Mae gan fis Medi nifer mwyaf o ben-blwyddi yn y teulu - y 6ed, 7fed, 8fed, 21ain (10fed hefyd cyn i fam y gŵr fu farw.) Roeddwn i'n arfer crasu tair cacen ar un diwrnod. Gan fod y plant i gyd wedi gadael cartref, dim ond cardiau a gyrrais atyn nhw. Cyrhaeddodd un at fy merch yn Japan ddiwrnod cyn ei phen-blwydd. Gobeithio y bydd hi'n cael dathliad hapus ar ôl iddi orffen ei gwaith.
Ces i fy nharo yn gweld y llythyren dan sylw yn ddirgelwch Nyffryn Nantlle. Mae o'n debyg iawn i'r kanji (system ysgrifennu Japneg) sydd yn golygu brenin. Yr unig wahaniaeth ydy dalai llinell lorweddol uchaf y kanji yn fyrrach na'r un ar y gwaelod fel gweler i'r chwith. Efallai nad oes unrhyw cysylltiad â'r dirgelwch, ond mae'n ddiddorol beth bynnag.
Dyma lun o Dŷ Gwladwriaeth Penssylvania yn Harrisburg a dynnodd fy merch. Ces i fy synnu'n gweld pa mor debyg ydy o i San Simeon Piccolo yn Fenis, un o fy hoff adeiladau yn yr Eidal. Roeddwn i'n lletya yn nhŷ Federica a oedd yn dafliad carreg o San Simeon P wrth wneud cwrs Eidaleg am bythefnos yn 2013. Mae fy merch a'i gŵr yn wrthi'n paentio'r murlun eto heddiw.sa