Cynhaliwyd angladd fy mam ddoe yn ei heglwys yn Tokyo, mynychwyd gan y teulu a'i ffrindiau. Methais i fynd oherwydd fy nghyflwr iechyd. Gwelais bopeth, fodd bynnag, drwy Zoom, diolch i'r dechnoleg fodern. Y gwahaniaeth mawr rhwng angladdau Cristnogol a'r lleill ydy llawenydd a gobaith ymysg galaru. Llawenydd bod yr ymadawedig yn byw gydag Iesu yn y nefoedd; gobaith y byddwn ni'n cael gweld nhw eto un diwrnod.
No comments:
Post a Comment