Friday, September 10, 2010

cwrs alffa


Mae'n heglwys ni newydd ddechrau rhedeg Cwrs Alffa. Mae o'n cynnig cyfleoedd i unrhywun ofyn cwestiynau am Gristnogaeth mewn awyrgylch anffurfiol. Wedi cael ei drefnu gan Nicky Gumbel o Lundain rhyw 20 mlynedd yn ôl, mae Cwrs Alffa wedi lledu i dros 160 o wledydd yn y byd.

Dan ni'n defnyddio dau fersiwn; Saesneg a Japaneg. Mae'r gŵr yn arwain y cwrs yn Japaneg yn ein cartref ni. Heno roedd y wers gyntaf. Roedd chwech o fyfyrwyr ynghyd â fy nheulu. Gwelon ni fideo ar ôl swper Mecsicanaidd a chlywed Nicky'n dysgu'r wers mewn dull syml a chlir gyda digon o jôcs (yn Japaneg goeth.) Aeth sesiwn gwestiynau'n dda. Mae'r cwrs yn fuddiol i Gristnogion hefyd gan fod o'n eu hatgoffa elfennau pwysig y ffydd.

Tuesday, September 7, 2010

swper


Gwahoddais i'r hogan o Abertawe i swper heno. Mae gynni hi hanes anhygoel; mae hi wedi ymddiddori yn Indiaid Cochion a daeth i'r dref fach ddi-nod yn benodol i dreulio rhyw ddeg diwrnod heb ymweld â nunlle arall yn yr Unol Daleithiau. Hwyrach dylen ni gyfnewid ein cartrefi ni.

Fe gynigais i fynd â hi o gwmpas yn fy nghar ond mae fy ffrindiau yn yr eglwys yn gofalu amdani hi'n dda fel nad oes dim byd i mi wneud. "Dw i wedi mwynhau pob munud gyda nhw," chwedl hithau (hynny ydy yn Saesneg.)

Dyma'r blodau prydferth ges i gynni hi heno. (Gweler y llun ar y dde.)

Sunday, September 5, 2010

o abertawe


Fe wnes i gyfarfod un arall o Gymru'r bore 'ma. Gobeithio bydd y tuedd anarferol yn parhau. Mae merch o Abertawe wedi dod i'r dref hon i weld Gŵyl Cherokee'n unig swydd. Mae hi'n digwydd aros gyda ffrind i mi sy'n rhedeg gwely a brecwast, a daeth hi'n heglwys ni. Clywais i si ymlaen llaw, a dyma wisgo fy nghrys T sy'n dweud "siaradwch Gymraeg â fi!" Cawson ni sgwrs ddymunol, ond yn Saesneg oherwydd mai un ddi-Gymraeg ydy hi. Dw i'n falch o'r tywydd braf iddi gael mwynhau gweddill o'i gwyliau.

Saturday, September 4, 2010

ymwelwyr o gymru!





Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn i mi, dim oherwydd penwythnos Labor Day na Gwyl Cherokee ond ces i ymwelwyr o Gymru am y tro cyntaf erioed yn fy nhŷ i.

Eifion Glyn ac Iwan Roberts o raglen y Byd ar Bedwar ddod draw. Daethon nhw i Oklahoma i ddilyn hanes Cymraes sy'n byw ger Oklahoma City ac roedden nhw eisiau cyfarfod siaradwyr Cymraeg eraill yn y dalaith hon (sydd ddim yn niferus) hefyd.

Roeddwn i'n gyffro i gyd yn croesawu'r Cymry. Fe wnes i grasu sgons â mwyar gleision lleol. A doedd yr ystafelloedd erioed wedi edrych mwy taclus. Roedd y ddau'n ofnadwy o glên fel hen ffrindiau. Ces i a'r teulu amser gwych yn sgwrsio gyda nhw.


Friday, September 3, 2010

pethau bychan

Fe wna i sgrifennu pwt yma heddiw i gyfrannu at Bethau Bychan.

Mae'n oeraidd y bore 'ma! Anhygoel! Cawson ni fwy o law Cymreig neithiwr gyda mellten a tharanau hyd yn oed. Mae'r awyrgylch wedi newid dros nos.

Mae penwythnos Labor Day arnon ni. Fel arfer dw i'n prysur baratoi dathliadau penblwyddi tri o'r plant ar yr adeg hon. Maen nhw'n cael eu penblwyddi ar y 6ed, y 7fed a'r 8fed. (Dim arna i mae'r bai!) Eleni, dan ni'n mynd i'w dathlu un heno, un nos Lun a'r llall benwythnos nesa.

Oherwydd y prysurdeb, dw i erioed wedi cymryd sylw ar Wyl Genedlaethol Cherokee o'r blaen. Ond dyma hi os oes gan rywun ddiddordeb ynddi hi. Mae hi'n denu rhyw 90,000 o bobl Cherokee ar draws UDA i'r dref fach hon.

Thursday, September 2, 2010

y wawr

Dw i wedi darllen cylchgronau amrywiol hyd yma gan gynnwys Lingo Newydd roeddwn i'n tanysgrifio iddo fo am flynyddoedd. Y Wawr ydy'r un dw i'n ei ddarllen ar hyn o bryd. Mae erthyglau diddorol ac mae safon yr iaith yn addas i mi; does dim gormod o eiriau newydd ond digon i mi gael eu dysgu. Yr erthyglau fwynheais i fwyaf oedd cyfweliad Catrin Angharad Roberts enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel ac un Lisa Jones, gwraig Prif Weinidog Cymru.

Wednesday, September 1, 2010

glaw cymreig

Mae hi'n bwrw glaw heddiw, nid dim ond am hanner awr ond trwy'r dydd! Mae'r olygfa mor brin fel ydw i'n sefyll wrth y ffenestr a'i syllu. Roedd pawb a phopeth yn dioddef oherwydd bod yn ofnadwy o sych am wythnosau. Mae tymor alergedd yr hydref wedi dechrau'n gynt hyd yn oed.

Clywais i si byddai criw o Gymru'n dod i Oklahoma heddiw. Hwyrach bod nhw'n dod â'r glaw Cymreig i'r tir sychedig! Mae'r glaswellt brown yn ei sugno'n ddiolchgar.