Monday, February 12, 2024

cynllwyn masnachwr

Wrth i Ddydd Valentine nesáu, mae prisiau blodau, balwnau, ayyb yn codi'n hurt. Mae brawd y gŵr yn hoffi rhoi anrhegion cariadus i'w wraig annwyl yn gydwybodol ar bob achlysur. Ceisiodd drechi'r gad drwy wneud y gwaith siopa'r wythnos diwethaf, ond roedd y prisiau wedi codi'n barod yn anffodus. Dw i'n falch nad ydw i na'r gŵr yn credu yn Nydd Valentine.

Friday, February 9, 2024

murlun newydd

Dyma furlun newydd fy merch yn Tokyo. Gweithiodd hi a'i gŵr yn galed drwy eira a gwynt am ddyddiau. Mae'n wych dros ben. Gobeithio y bydd o'n bendith i'r ardal.

Wednesday, February 7, 2024

prif weinidog ariannin


Chwap ar ôl cyrraedd Israel, cyhoeddodd Javier Milei, prif weinidog newydd Ariannin fyddai fo'n symud y llysgenhadaeth i Jerwsalem. Aeth yn syth at Wal Orllewinol i weddïo. Ysgrifennodd yn y llyfr ymweliad: "Gofynnaf am ddoethineb, dewrder, a chryfder i fod yn llestr teilwng i waith y Creawdwr." Bendith Duw Israel arno fo! 

Tuesday, February 6, 2024

eira yn tokyo

Cafodd Tokyo eira, tua dwy fodfedd, fel dyddiau fy mhlentyndod. Ces i fy magu ym maestrefi Tokyo, a dw i'n cofio chwarae mewn eira gyda ffrindiau, adeiladu iglw bach gyda fy mrawd, a chael te tu mewn. Mae eira sylweddol yn brin yno yn ddiweddar fodd bynnag. Roedd yn brofiad arbennig i fy merched.

Monday, February 5, 2024

wal ffin

Wal hiliol a adeiladwyd gan Israel? Na. Y wal ffin rhwng Gaza a'r Aifft a adeiladodd yr olaf ydy o, er mwyn cadw pobl Gaza allan o'r Aifft. Mae'n amlwg ei fod o'n effeithiol oherwydd bod neb yn medru ffoi i'r Aifft o Gaza. Diolch i Hananya Naftali am y llun.

Saturday, February 3, 2024

bisgedi


Pobais fisgedi am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Llawn o brotein, hollol naturiol, heb ychwanegu siwgr oedden nhw. Cymerodd tipyn o amser gan fod y toes braidd yn galed. Barn y gŵr - dylen nhw fod yn felysach. Bydda i'n cadw at fisgedi o Walmart.

Friday, February 2, 2024

murlun yn tokyo

Mae fy merch hynaf wrthi'n creu ei murlun cyntaf yn Japan, mewn un o'r trefi ffasiynol yn Tokyo. Cafodd ei sioc i wybod bod yn hollol ddiogel gadael ei phethau wrth ochr y wal, a does neb yn chwistrellu cyffuriau neu greu llanast o gwmpas! Y broblem fawr oedd ffeindio paent ar gyfer waliau gan nad ydy pobl Japan yn paentio tai neu ddodrefn fel hobi.