Saturday, May 11, 2024

blodau coffi

Doeddwn i ddim yn gwybod pa mor hardd ydy blodau coffi nes gweld y fideo hwn gan Job yn Honduras. Mae o a'i deulu'n rhedeg fferm er mwyn dangos i'r ffermwyr lleol ffordd llawer gwell i ffermio. Mae hyn yn agor drws iddo rannu'r Efengyl gyda nhw hefyd. Cafodd help gan griw o Iowa'n ddiweddar.

Friday, May 10, 2024

gor-wyres

Cafodd fy mam ymwelydd arbennig, sef ei gor-wyres. Aeth fy merch â'i babi i weld ei nain am y tro cyntaf ers cael y babi dri mis yn ôl. Roedd fy mam wrth ei bodd wrth gwrs, ac yn mynnu y byddai ei gor-wyres yn tyfu'n ferch hardd!

Wednesday, May 8, 2024

datrysiad

Mae gen i syniad gwych i ddatrys problem gyfredol yn Gaza: dylai'r Aifft agor y porth ar groesfan Rafah, a gadael i bobl Gaza lochesi yn eu gwlad. Wedi'r cwbl, mae cyd Mwslemiaid mae pobl Gaza, heb sôn am ba mor enfawr ydy Penrhyn Sinai. Mae yna fwy na digon o le i groesawi ffoaduriaid. Os nad ydy'r Aifft eisiau ei wneud o, dylai'r Cenhedloedd Unedig, neu'r Unol Daleithiau orchymyn i'r Aifft ei wneud o, fel maen nhw'n bob amser orchymyn i Israel wneud hyn a'r llall. Yna, gall yr IDF ddinistrio Hamas yn llwr heb boeni am y bobl.

Monday, May 6, 2024

diwrnod yr holocost


Mae Israel yn cofio heddiw'r 6 miliwn a gafodd eu llofruddio. Mae'r byd yn condemnio beth wnaeth y Natsiaidd bryd hynny, ond mae'n anwybyddu’r peth ofnadwy o waeth yn digwydd ers 7 Hydref. Mae Byth Eto yn golygu Rŵan.

Saturday, May 4, 2024

ieir iâr yn honduras


Mae Job, un o genhadon fy eglwys, yn dosbarthu ieir iâr yn rhad ac am ddim ymysg teuluoedd yn ei ardal yn Honduras. Mae'r wyau yn darparu maeth pwysig i'r bobl dlawd yno. Yna, bydd Job yn mynd o gwmpas yn prynu'r wyau sydd ar ôl, eu cludo at y farchnad yn y dref, a'u gwerthu. Mae o'n talu pris y farchnad i'r teuluoedd, ac felly cymorth enfawr iddyn nhw; maen nhw'n cael ennill pres a heb fynd i'r farchnad eu hun.

Friday, May 3, 2024

tipyn bach o erledigaeth



Mae cynifer o Gristnogion yn y gwledydd gorllewinol yn dal i gysgu. Naill ai mae ganddyn nhw ofn cefnogi'r cyfiawnder a gwirionedd, neu maen nhw'n rhy brysur gyda phethau beunyddiol. Dyma fideo ardderchog gan One for Israel am y pwnc llosg. "Bydd tipyn bach o erledigaeth yn gwneud lles i Eglwys America." Cytuno'n llwyr.

Thursday, May 2, 2024

blodeuyn yn gwywo



Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo;
ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth. (Eseia 40:8)