Wedi treulio bron i ddau fis yn Oklahoma, adawodd fy ail ferch i fynd yn ôl i Japan ddoe. Aeth popeth ar y chwith pan oedwyd ei hawyren oherwydd storm yn Chicago. Methodd hi'r awyren nesaf; o ganlyniad roedd hi'n gorfod hedfan i Faes Awyr Newark yn New Jersy. Mae hi'n dal yno yn aros am yr awyren i Tokyo. Un peth braf oedd iddi gael gweld murlun ei chwaer mewn tŷ bwyta yno (Little Purse!)
Wednesday, August 13, 2025
Tuesday, August 12, 2025
fy merch arall
Mae fy merch arall (sydd yn byw yn Awstralia bellach) yn treulio ei gwyliau yma yn Oklahoma. Am y tro cyntaf ers pum mlynedd a hanner daeth hi adref. Roedd popeth cyfarwydd yn edrych yn newydd iddi, Walmart er enghraifft. Roedd hi wrth ei bodd yn siopa yno gyda'i chwaer.
Monday, August 11, 2025
tudalen newydd fy merch hynaf
Mae fy merch hynaf newydd gyhoeddi i'w ffrindiau ei bod hi a'i gŵr wedi symud i Japan. Llwyddon nhw i ffeindio fflat delfrydol i rentu, ger ei chwaer a'i theulu. Dyma dudalen newydd ei bywyd.
Saturday, August 9, 2025
tafell o felon dŵr
Mae gan fwyd yn Japan ansawdd uchel ac mae'n hynod o flasus. Mae'n ofnadwy o ddrud, fodd bynnag. Roedd fy merch hynaf eisiau melon ddŵr, ond wedi gweld y pris ($26.80,) prynodd ond un dafell. Y pris - $3.73.
Tuesday, August 5, 2025
cost sefyll ar wirionedd Duw
Gofynnwyd Amir Tsarfati pam nad oes nifer o eglwysi yn sefyll gydag Israel.
Atebodd:
"Oherwydd bydd sefyll gydag Israel yn eich costio chi."
Mae o'n iawn; mae gormod o "Gristnogion" yn ofni cael eu barnu gan y byd. Maen nhw'n ofni dyn hytrach na Duw. Felly, maen nhw'n dewis cau eu ceg. Mae'n costio, fodd bynnag, pan fyddwch chi'n sefyll ar wirionedd Duw. Dim gwleidyddol ydy sefyll gydag Israel, ond Beiblaidd.
Monday, August 4, 2025
sut i ymdopi gwres
Mae tywydd anarferol o boeth yn parhau yn Japan. Fuodd 56 o bobl farw o ganlyniad yn y ddau fis diwethaf yn Tokyo. Dwedodd fy merch ei bod yn boeth er bod y cyflyrydd aer ymlaen. Dyma hi'n cael syniad da er mwyn oeri ei babi druan. Gosododd bwll nofio plastig ar y balconi cul. Mae fy wyres wrth ei bodd, ac yn neidio i mewn dŵr (yn ei dillad) pryd bynnag agorir y drws.
Saturday, August 2, 2025
gweithred brydferth
Pan dywalltodd y wraig ennaint drudfawr ar ben Iesu, ceryddodd Jwdas hi am fath o wastraff. Canmolodd Iesu, fodd bynnag, ei gweithred brydferth. Fe wnaeth oherwydd ei chariad tuag ato fo.
Darllenwch Efengyl Marc 14:1-11
Subscribe to:
Posts (Atom)