Sunday, August 31, 2008

dwy gacen benblwydd



Mae'r tri o'r plant yn cael eu penblwyddi ar y 6ed, 7ed, 8ed o fis Medi. Felly mae 'na "birthday rush" yr adeg hon bob blywddyn.

Eleni wnaethon ni ddathlu dau benblwydd dros y Sul ma. Cacen wen efo mefus a hufen i'r bedwaredd ferch. Mi gaethon ni pitsa hefyd. 

Yna cacen siocled i'r mab hyna. Mi aethon ni i dyˆ bwyta Tseineaidd yn gynta. Roedd 'na fwy na digon o fwyd o'ch dewis gan gynnwys sushi. Mi wneith y hogyn fynd yn ôl i'r brifysgol nos yfory.


Saturday, August 30, 2008

bedd ar goll


Lle mae bedd John B. Jones? Mi es i'r fynwent p'nawn ma eto ond weles i mono fo. Dim ond gweddillion dau fedd ger bedd Evan. Dw i'n casglu mai un o'r ddau ydy bedd John. Dw i bron yn siwr achos dyna le dylai fod yn ôl y map.


Mi ges i hyd i fedd gwraig John (Jennie.)  Mae o yn gyferbyn â bedd Evan. Mi roies i flodau iddyn nhw i gyd.

Friday, August 29, 2008

y cofiant

Dw i newydd nôl cofiant Evan a John Jones (Champions of the Cherokees) o'r llefrgell leol ac wedi darllen tudalennau cynta bore ma. Mi ges i gymaint o wybodaeth yn barod. Edrycha i ymlaen at ddarllen mwy.

Dw i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl wrth i mi fwrw ymlaen. Mae 'na un peth dw i'n swir amdano. Hynny ydy mae'r pwnc ma'n rhywbeth gwerthfawr ymchwilio ynddo.

Wnes i ddim rhoi'r gorau i chwilio am fedd John eto. Dw i'n bwriadu mynd cyn gynted a phosib a gosod blodau o flaen y ddau fedd.

Thursday, August 28, 2008

bedd y cymro



Mi ges i hyd iddo. Bedd Evan Jones. Er gwaetha effaith yr amser roedd yr ysgythriad pwysig yn ddigon clir.

REV EVAN JONES
Born in Wales
MAY 14, 1788

"No man has been a truer friend than he to the Cherokee people..." meddai y Parch. Daniel Rogers.

Mae trefn y rhifau ar y map yn dda i ddim. Weles i mo bedd ei fab. Doedd gen i ddim amser chwilio amdano fo. Bydd rhaid i mi geisio y tro nesa.



Wednesday, August 27, 2008

gwers cherokeg

Dw i newydd brofi gwers yr iaith Cherokee (Cherokeg baswn i'n galw.)  Roedd hi'n ddiddorol. Mi wnes i glywed Cherokeg am y tro cynta. 

Roedd 'na dwsin a hanner o fyfyrwyr ac roedd y tiwtor ifanc yn siarad llawer o Cherokeg yn y dosbarth. 

Un peth wnaeth fy ngharo i oedd y faith bod gynni hi "ll" (Ysgrifenir "hla"). Mae un wefan yn dweud:  ..others pronounce it as a breathy "l" like the "ll' in the Welsh name "Llywelyn" 

Mae gynni hi ferfau cryno hefyd:
A' i - gega
Ei di - hega
Aˆ nhw - anega

Pan ddwedodd y tiwtor "iawn" i'r dosbarth, rôn i'n meddwl iddo ddweud "nos da." "osda" oedd y gair sy'n golygu "iawn"!

Roedd yn brofiad buddiol ond dw i ddim yn mynd yn ôl achos bod y dosbarth yn canolbwyntio ar Cherokeg llafar. Dw i isio gwybod sut i ddarllen y llythrennau ddyfeisiodd Sequoia. Ella wna i hynny drwy llyfrau.

Roedd yn dda cael mynd i'r dosbarth beth bynnag a gweld hefyd bod rhai o Cherokees yn ceisio adfywio eu hiaith.

Tuesday, August 26, 2008

cyfrinach y bedd


Ddim nofel newydd gan T.Llew Jones ond y bedd John Battrick Jones, mab Evan dw i'n sôn amdano.

Mi ges i hyd i fwy o wybodaeth am y Cymry. Mi wnaethon nhw sefydlu First Baptist Church yn y dre ma. Ar ôl i Evan farw yn 1873, olynwyd y gwaith Cristnogol gan ei fab. Ond buodd o farw o'r diciâu yn 1976 a chael ei gladdu ym mynwent y dre. Yma, yn y dre ma! Fedra i ddim credu hyn. Bydda i'n gyrru heibio'r fynwent bob dydd i gasglu'r plant!

Mi wnes i ofyn i'r eglwys lle yn union mae'r bedd ond does gan yr ysgrifenyddes ddim clem. Dim ots. Roedd rhaid i mi fynd, cyfeiriad neu beidio.

Dyma fi'n cerddedd trwy dros 7,000 o beddau. Wrth gwrs rôn i'n anelu at hen feddau. Ar ôl awr heb lwyddiant, roedd rhaid i mi fynd i gasglu'r plant. Yna, mi ddes i ar draws map y fynwent:

Jones, John Battrick
hefyd
Jones, Rev. Evan

llun: mynwent y dre

Monday, August 25, 2008

evan jones

Dw i'n dal mewn sioc. Dw i'n byw mewn tref sy gan gysylltiad efo Cymro mor bwysig er fod o ddim yn gymharol adnabyddus. A dyma fi'n cwyno bod 'na ddim byd Cymreig yn yr ardal ma ers blynyddoedd.

Evan Jones, Cenhadwr o Gymru wnaeth ddysgu darllen a sgwennu'r iaith Cherokee i'r bobl frodorol a chyfieithi'r Beibl iddi hi. Mi wnaeth o deithio efo'r Indiaid ar "Trail of Tears" enwog a gwarthus i'r dre ma. Roedd o'n gweithio'n galed drostyn nhw.

Dôn i erioed wedi ymddiddori yn yr iaith Cherokee ond dw i'n awyddus i drio bellach. Fel mae'n digwydd bod 'na gyrsiau ar gael yn y brifysgol leol. Maen nhw newydd gychwyn, ac bydda i'n cael profi un ohonyn nhw ddydd Mercher! 

Diolch o galon i szczeb wnaeth ddweud wrtha i amdano fo.