Monday, April 30, 2012
soroban
Wrth ddarllen erthygl am peli soroban o bren olewydden heddiw, es i ati i ddarllen o'r newydd am y teclyn cyfrif syml traddodiadol o Japan. Syml a chyntefig efallai, ond mae'r peth bach yn helpu datblygu sgil mathemateg a mwy. Mae pob plentyn yn Japan i ddysgu sut i'w ddefyddio yn yr ysgol, ac mae rhai'n mynd i ddosbarthiadau penodol ar ôl yr ysgol hyd yn oed yn adeg Apple hon. Doedd gen i ddim diddordeb ynddo fo pan oeddwn i'n blentyn, ond mae'n hwyl a dweud y gwir. Ffeindiais i soroban ac ymarferion ar lein i'w ailddysgu. Rhaid cael gafael yn soroban go iawn rywdro!
Sunday, April 29, 2012
amser bath
Mae'n gynnes. Penderfynodd fy merch roi bath blynyddol i'w thri mochyn cwta. Daethon nhw ati'n disgwyl cael bwyd pan alwodd hi nhw. Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd yn eu disgwyl! Doedden nhw ddim yn hapus i ddweud y lleiaf, ond maen nhw'n lân rŵan. Tan y flwyddyn nesa ta!
Saturday, April 28, 2012
twrnai ffasiynol
Dechreuodd fy merch flog newydd efo ffrind iddi. Mae'r blog yn dangos y dillad ffasiynol y maen nhw'n eu gwisgo i'w gwaith. Andrea, ffrind fy merch, yn ddynes anhygoel. Dach chi ddim yn disgwyl gweld rhywun felly mewn llys - un ddel, fach, ifanc a ffasiynol. Twrnai ydy ei swydd hi, ond peidiwch â chael eich twyllo gan ei golwg ciwt. Mae hi'n gallu bod yn ofnadwy o "tough and scary" yn ôl pob sôn! Mae hi a fy merch yn ffrindiau da beth bynnag, ac maen nhw'n cael hwyl postio eu blog ffasiwn.
Friday, April 27, 2012
y tocyn cyntaf
Penderfynais i fynd i'r cinio i gefnogi Mike Huckabee, a dyma fynd i brynu tocyn, ar fy ffordd i gasglu'r plant, i Go Ye Village sy'n trefnu'r digwyddiad. Am syrpreis! Y fi ydy'r gyntaf! Argraffwyd 500 o docynnau yn ôl y ddynes at y ddesg. Gobeithio y bydd yna ddigon o bobl i lenwi'r neuadd. Gofynnais i a gawn i fy mhres i gyd yn ôl pe bai'r cinio'n cael ei ganslo (rhag ofn.) - Gawn. Efallai fy mod i'n haeddu i eistedd wrth y bwrdd agosaf ato fo!
Thursday, April 26, 2012
paffwragedd
Chwiorydd ydyn nhw, un yn 19 oed a'r llall yn 17 oed. Nhw ydy'r cyntaf yn Japan fel chwiorydd i chwarae paffio'n broffesiynol. Dechreuodd Saki a Mako Yamada chwarae crefftau ymladd yn ferched bach, a chychwyn yn broffesiynol pan oedden nhw'n troi'n 17 oed. Maen nhw wedi gwneud yn dda hyd yma, ac yn anelu at bencampwriaeth y byd. Pob lwc!
Wednesday, April 25, 2012
pont ddinosor
Doeddwn i ddim yn gwybod am y bont newydd hon yn Tokyo tan y bore 'ma. Agorodd hi'n swyddogol ym mis Chwefror eleni. Tokyo Gate Bridge ydy'r enw, ac mae ganddi lysenw, sef "Dinosaur Bridge" oherwydd y siâp. Cafodd hi ei goleuo'n ogoneddus neithiwr a denu llu o ffotograffwyr.
Tuesday, April 24, 2012
ipad
Prynodd y gŵr iPad yn ddiweddar (wedi meddwl yn hir a chaled.) Mae'n anhygoel gweld pa mor fach ac ysgafn ydy o. Mae'n edrych fel brawd hŷn iPhone a chyda chymaint mwy o bosibilrwydd. Gan fod y gŵr yn dibynnu ar gyfrifiaduron yn ei swydd ac yn teithio'n aml, mae iPad yn prysur fynd yn rhan hanfodol o'i fywyd.
Subscribe to:
Posts (Atom)


