Monday, November 19, 2007

atgofion o gymru 10


Wrth i mi gerdded at y drws efo fy hambwrdd, mi nes i sylwi ar ddyn oedd yn eistedd yn y cornel. Edryches i arno ddwywaith. Dogfael? Rôn i wedi glwed ei lun ar ei flog. Ond mae o'n byw yn Aberystwyth. Mi nes i betruso. Oedd bron i mi fynd heb ddweud dim. Erbyn i mi benderfynu siarad â fo, roedd o'n mynd drwy drws blaen y ffreutur. Mi es i ar ei ôl.

Mi naeth Dogfael sgwennu yn fanwl am y digwyddiad yn ei flog fel mae rhai pobol yn cofio.
http://blogdogfael.org/2007/06/26/cyfarfod-gydag-emma-reese/

Dôn i ddim yn disgwyl iddo nabod fy enw a dweud y gwir. Digwyddodd popeth mor sydyn ac annisgwyl. Mi ges i gyfleoedd i siadad â fo a ffrind iddo dros swper a phanad wedyn. Dw i'n ddiolchgar wrthyn nhw am dreilio amser hir iawn siarad â fi yn Gymraeg. Ac doedden nhw byth yn troi i'r Saesneg er mod i ddim yn eu deall nhw weithiau.

1 comment:

Dogfael said...

Cefais i sioc! Dyna'r peth diwethaf yr oeddwn i'n ei ddisgwyl! Rydw i mor falch dy fod wedi magu'r hyder a bod yn ddigon dewr i siarad gyda fi. Roedd hi'n wych o beth. Rwy'n dy edmygu'n fawr iawn am beth rwyt ti wedi llwyddo i'w wneud. Dwi ddim am swnio'n nawddoglyd o gwbwl gan fy mod i'n gwybod pa mor anodd yw hi i wneud rhywbeth fel 'na. Dwi'n ceisio dysgu Iseldireg ar hyn o bryd a phan fydda i'n mynd i Fflandrys dwi'n teimlo'n ofnus bob tro y mae'n rhaid imi fynd i siarad gyda rhywun mewn Iseldireg. Ond does dim ffordd arall.

Dwi ddim yn credu bod cyfarfod fel wnaethon ni gyfarfod ym Mangor ddim yn digwydd trwy ddamwain chwaith.