Wednesday, November 21, 2007

thanksgiving day

Gwyl Ddiolchgarwch ydy hi yfory. Dan ni wedi gwahodd pum myfyriwr Japaneaidd i ginio. Mi es i i siopa yn Wal-Mart bore ma a phrynu twrci mawr (19 pwys) a thair pastai (pwmpenni, pecan) ac ati. Dim ond dwy gacen gaws dw i'n mynd i wneud am bwdin.

Mi fydda i'n prynu twrci ffres fel arfer ond doedd dim ar ôl heddiw! Twrci wedi 'i rewi'n solet ydy hwn. Gobeithio bydd o'n dwrci da a chael ei rostio'n iawn yfory.

Mae gen i lawer o bethau i ddiolch i Dduw amdanyn nhw - fy ffrindiau rhyngrwyd, fy mlog, Skype, Dafydd fy angel, ac yn y blaen....

2 comments:

Corndolly said...

Sut oedd y twrci, Emma? Hoffwn i ginio wedi'i rostio hefyd. Dw i ddim wedi bwyta peis pwmcin o'r blaen. Ydy o'n flasus?

Emma Reese said...

Wel, chaethon ni mo'r cinio ddoe. Naeth y twrci fethu dadrewi'n llwyr wedi'r cwbl! Roedd rhaid i ni ei ohirio tan heno.