Wrth i'r trên nesu at Orsaf Bangor, ro'n i mor falch o weld y brifysgol ar bryn yn y pellter. Ar ôl cyrraedd yr orsaf, penderfynes i gerdded o gwmpas y dre cyn mynd i'r neuadd breswyl achos roedd hi'n rhy gynnar. Ro'n i'n cerdded awr neu ddau wrth llusgo'r cês trwm yn y glaw mân. Roedd 'na lawer o geir yn mynd heibio'n gyflym iawn. Yna, es i mewn tacsi i'r neuadd gan bod hi ar ben y bryn ac ro'n i'n eitha flinedig.
Ro'n i'n meddwl mai neuadd breswyl oedd Safle Normal lle byddai yr ysgol haf i fod i gael ei chynnal. Mi es i i'r llyfrgell am fanylion yn union fel dwedodd y llythr oddi wrth yr ysgol.
Ond doedd gan y ddwy ferch oedd yn gweithio yna ddim syniad o gwbl am fy llety.
2 comments:
Ydi, mae hi'n dipyn o allt i fyny i'r Coleg ar y bryn .'Roedd tacsi yn syniad da iawn !
Rôn i'n ceisio osgoi mynd mewn tacsi cymaint a phosib i arbed pres.
Post a Comment