Dwedodd un o'r merched bod dim llety yn Safle Normal. Ffoniodd hi rai pobl drosta i ond doedd neb ar gael. Dydd Sul ydoedd. Ffoniodd hi ddyn diogerwch. Mi ddaeth o yn syth a ffonio sawl pobl hefyd ond doedd neb yn gwybod am fy llety. Oes gen i dderbynneb oddi wrth yr ysgol haf? Gofynodd o. Roedd gen i eli haul, sbectol haul a phopeth anangenrheidiol ond y llythyr oddi wrth drefnydd yr ysgol! Mi nes i dalu am y llety yn barod, ond ydw i'n mynd i chwilio am lety yn y dre?
Rôn i'n siarad yn Gymraeg gynta. (Yng nghanol yr argyfwng, rôn i'n meddwl bod Cymraeg y ferch yn swnio'n hyfryd, yn enwedig bod ei "ll" yn arbennig o laith ac yn ddeniadol.) Ond roedd pethau'n ormod. Roedd rhaid i mi troi i'r Saesneg.
Roedd y dyn yn gynorthwyol dros ben. Roedd o'n ffonio nifer o bobl ac ar ôl awr naeth o lwyddo i siarad â rhywun oedd yn gwybod am fy llety. Yn Ffriddoedd oedd o. Roedd yn amlwg mai pob dysgwr ond fi yn gwybod mai yn Ffriddoedd oedd y llety. Galwodd o am dacsi drosta i.
Basai fo'n aros am y tacsi efo fi tu allan y drws blaen. Ar ôl yr ollyngdod fawr, rôn i'n medru siarad Cymraeg yn well. Roedd o mor glên yn siarad yn araf am wahanol bethau difyr. Mi nes i ddweud sawl gwaith, "Dach chi isio mynd? Bydda i'n iawn." Ond fyddai fo ddim yn mynd heb weld y tacsi. Mi ddaeth o ar ôl mwy na hanner awr.
Cyn i mi fynd, mi nes i dynu llun ohono fo. Dafydd, fy angel. Na i byth yn ei anghofio fo!
5 comments:
Ble mae ei lun o? Dwi eisiau gweld y bonheddwr :-)
Mae gen i fodryb ac ewythr sy'n byw yn Ffordd Ffriddoedd ym Mangor! Mi wnaeth dy flog atgoffa fi amdanyn nhw, roedden ni'n arfer aros gyda nhw pan o'n i'n hogyn.
Roedd y llety yn Ffriddoedd yn hyfryd. Ac mi ges i gymaint o gyfleoedd i gryfhau fy nghoesau wrth fynd i fyny ac i lawr y ffordd serth!
Emma, llythyr wedi cyrraedd trwy'r post y bore 'ma. Falch o glywed fy mod wedi creu ffashiwn argraff. Falch o gael helpu rhywyn mewn argyfwng.
Bachgen bach gafodd y wraig 8pwys 10owns fam a'r bychan yn gwneud yn gret.
Os fyddwch chi'n dod drosodd i Fangor eto i wneud y 'Cwrs Pellach' cofiwch alw draw i ddweud helo.
Dafydd. (Y porthor perffaith)
Emma, llythyr wedi cyrraedd trwy'r post y bore 'ma. Falch o glywed fy mod wedi creu ffashiwn argraff. Falch o gael helpu rhywyn mewn argyfwng.
Bachgen bach gafodd y wraig 8pwys 10owns fam a'r bychan yn gwneud yn gret.
Os fyddwch chi'n dod drosodd i Fangor eto i wneud y 'Cwrs Pellach' cofiwch alw draw i ddweud helo.
Dafydd. (Y porthor perffaith)
Post a Comment