Sunday, November 25, 2007

atgofion o gymru 14

Mi ddalies i'r bws o Fangor i Borthmadog. Roedd hi'n cymryd rhyw ddwy awr. Roedd pawb yn gwybod beth oedd y safle nesa ond fi. Mi ofynes i i'r gyrrwr stopio pan gyrhaeddai Porthmadog. Roedd y golygfeydd yn fendigedig - mynyddoedd gwyrdd a llawer o ddefaid (gwlyb iawn.) Mi ges i gipolwg o ben Castell Caernarfon.

Dal y trĂȘn i Aberystwyth bore wedyn oedd y bwriad i fynd i Borthmadog. Felly doedd gen i ddim digon o amser i wneud dim ond cerdded o gwmpans y dre am awr neu ddwy. Mi ges i hyd i siop Spar a phrynu brechdan, oren ag iogwrt. Yna nes i gael picnic ar fainc maes parcio Tesco.

Ar ben y bryn oedd fy llety eto. Roedd y perchennog yn ddymunol er bod hi ddim yn siarad Cymraeg. Geordie oedd hi. Ond roedd 'na drws rhwng fy ystafell a'r un nesa, ac meddrwn i glywed pob gair roedd y teulu'n ddweud wrth ei gilydd drws nesa.

No comments: