Dw i'n gwneud Uned 4 (gorchmynion), Cwrs Pellach ar hyn o bryd. Dw i i fod i sgwennu naill ai rysait neu sut mae cyrraedd fy nghy neu sut mae dysgu Cymraeg yn dda. Mi nes i ddewis sut mae dysgu Cymraeg yn dda.
"Yn gynta, carwch Gymru a'r Gymraeg. Dysgwch bob dydd. Cerwch i ddosbarthiadau os yn bosib. Gwnewch gyrsiau trwy'r post. Darllenwch lyfrau Cymraeg ac unrhywbeth Cymraeg. Darllenwch am hanes Cymru ac am ddysgwyr sy wedi llwyddo er mwyn cael ysbrydiaeth. Gwrandewch ar Radio Cymru. Golchwch lestri, glanheuwch stafelloedd ymolchi, smwddiwch wrth wrando ar GDau Cymraeg. Gwyliwch S4C os yn bosib. Cadwch ddyddiaduron, blogiwch, sgrifennwch e-bost neu lythyrau yn Gymraeg. Gwnewch restri sioppa yn Gymraeg. Siaradwch Gymraeg ar bob achlysur. Os does neb arall yn siarad Cymraeg, siaradwch â'ch hun neu â'ch anifeiliaid anwes. Meddyliwch yn Gymraeg. Canwch ganeuon Cymraeg. Recordiwch eich Cymraeg ar recordyddion tâp neu ar gyfrifiaduron, a cheisiwch sylwi be sy'n iawn a be sy ddim. Peidiwch â malio os byddwch chi'n swnio'n ofnadwy. Dysgwch efo'ch ffrindiau.
Yn anad dim, mwynheuwch ddysgu.
Deudwch wrtha i os gynnoch chi syniadau eraill."
5 comments:
Daliwch ati! - rydych chi'n gwneud yn arbennig o dda Emma.
Syniadau da, Emma! Dw i'n hoffi siarad wrth nghath yn Gymraeg; weithiau mae hi'n ddeall, dw i'n meddwl!
Diolch i chi, Cer a Zoe. Dw i'n siwr bod dy gath yn deall dy Gymareg, Zoe. Mae cathod yn ddeallus.
Dw i'n cytuno efo Zoe - syniadau da iawn. Mae fy nghariad i yn awgrymu mod i'n cwyno am y traffig yn y Gymraeg pan dw i'n gyrru.
i'r dim, Tom!
Post a Comment