Wednesday, February 6, 2008

cwrs y rhosyn gwyllt

Dw i newydd gofrestru ar gyfer cwrs Cymraeg gan Gymdeithas Madog ym mis Gorffenaf yn Iowa. Rôn i'n bwriadu aros nes i mi wybod pwy fydd yn dysgu'r cwrs ma ond dyma'r unig cwrs fedra i fynychu'r haf ma wedi'r cwbl. Fedrai ddim mynd i Gymru oherwydd y priodas ac bydda i'n siomedig os na cha i fynd i unrhyw cwrs Cymraeg eleni. Mae llawer o bobl wedi ei ganmol ac bydd hi'n hwyl cael nabod dysgwyr eraill yn America.

4 comments:

Corndolly said...

Dw i'n siwr bod hyn yn benderfyniad gwych! Efallai bydd gen ti lawer o ffrindiau newydd sy'n dysgu Cymraeg. Pryd wyt ti'n mynd?

Emma Reese said...

Mi neith y cwrs ddechrau 13/7.

Zoe said...

Mae fy athro Cymraeg Kevin Rottet yn dysgu am y cwrs 'ma. Mae o'n dysgu lefel 3, dw i'n credu. Ond byddi di'n lefel uwch erbyn yr haf efallai...

Emma Reese said...

Ydy wir!? Mi edrycha i ymlaen at ei gyfarfod. Mi nes i geisio am lefel 6.

Sgwennes i ato fo unwaith ond chlywes i ddim oddi wrtho fo. Mi aeth fy most yn ei flwch sbwriel, ella.